Dwy wedi eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
02/11/2023
Heddlu
Mae dwy ddynes wedi eu hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.
Fe dderbyniodd Heddlu’r De adroddiad fod dwy ddynes wedi bod mewn gwrthdrawiad â char ar Heol Harris, Tredelerch am 01:50 fore ddydd Iau.
Fe wnaeth gyrrwr y car fethu â stopio a gadawodd y lleoliad.
Cafodd dynes 45 oed o Trowbridge a dynes 35 oed o Laneirwg eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle mae eu hanafiadau’n cael eu trin fel rhai difrifol ond nid rhai sy’n bygwth bywyd.
Mae dyn 34 oed o Dredelerch wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad a’i gludo i orsaf heddlu Bae Caerdydd lle mae’n cael ei holi.