Newyddion S4C

Trafod dyfodol miloedd o swyddi yng ngwaith dur TATA Port Talbot

01/11/2023

Trafod dyfodol miloedd o swyddi yng ngwaith dur TATA Port Talbot

Mae aelodau bwrdd cwmni Tata yn cyfarfod yn India ac mae disgwyl cyhoeddiad am ddyfodol y safle ym Mhort Talbot yn fuan.

Y gred oedd y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud dydd Mercher ond nid dyma'r disgwyl bellach.

Mae disgwyl i filoedd o swyddi gael eu colli yn y ffatri o dan gynlluniau i gynhyrchu dur, trwy dduliau mwy caredig i'r amgylchedd.  

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gytundeb gwerth £500 miliwn ym mis Medi mewn ymdrech i ddadgarboneiddio safle gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.

Ond dywedodd yr adran fusnes mai dim ond 5,000 o'r 8,000 o swyddi ar draws y DU y gallai'r cytundeb ei achub.

Bydd yn rhaid i Tata Steel ymrwymo i adeiladu ffwrneisi trydanol fel rhan o’r cytundeb, er mwyn symleiddio’r broses o greu dur. Byddai hyn hefyd yn ceisio mynd i’r afael ag allyriadau carbon y cwmni. 

Dyma’r cyflogwr mwyaf yn y rhanbarth. 

Dywedodd llefarydd ar ran gwaith dur TATA: “Rydym yn gobeithio dechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda’n cynrychiolwry gweithwyr yn fuan.

“Yn y trafodaethau hyn, byddwn yn rhannu mwy o fanylion am ein cynigion i drosglwyddo at ddyfodol datgarboneiddio TATA Steel.  

“Rydym wedi ymrwymo i wybodaeth ystyrlon a phroses ymgynghori gyda’n partneriaid a'r undeb llafur ar gyfer y cynigion hyn a byddwn yn ystyried yn ofalus unrhyw gynigion a gyflwynir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.