Newyddion S4C

Fferm sy’n gwerthu pwmpenni yn gweld cyfle ‘pwysig’ i addysgu plant

Pwmpenni Pendre

Wrth i deuluoedd ar hyd a lled Cymru ddathlu Nos Galan Gaeaf, mae un fferm sy’n gwerthu pwmpenni eisiau cymryd y cyfle i ddysgu plant am gynaeafu.

Fe lansiodd Pwmpenni Pendre ar Fferm Pendre yn Llanfihangel y Creuddyn, Aberystwyth y llynedd ar ôl i Tom Evans a’i wraig, Beth Evans, sylweddoli fod yna “gap yn yr ardal”. 

Roedd rhaid i’r teulu ifanc deithio bron i ddwy awr i’r cae pwmpenni agosaf, ac fe wnaeth hynny eu hysgogi nhw i gymryd mantais o’r “cyfleusterau” a’r tir oedd ganddyn nhw ar eu fferm defaid. 

Ond yn ogystal ag ehangu eu busnes mae'r pâr yn awyddus i gynnig cyfle i addysgu plant a theuluoedd ifanc ynglŷn â sut mae cnydau yn tyfu.

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Tom Evans: “Mae Beth yn athrawes hefyd, ac ni’n meddwl bod e’n bwysig bod y plant a’r teuluoedd ifanc yn dod ac yn gweld lle mae’r pwmpenni’n tyfu. 

“Mae’n bwysig eu bod nhw’n gweld y gwrych a gweld shwt maen nhw’n tyfu. I ni’n meddwl bod e’n bwysig bod nhw’n gweld y pictiwr cyfan.

“A dim ond barn bersonol ydy hon ond dwi’n meddwl bod e’n edrych cymaint yn well bod y plant yn gallu mynd mewn i’r cae ac edrych ar y bwmpen.

“Dw i wedi gweld rhai pobl sydd yn gosod nhw mas yn y cae ac yn bersonol dwi ddim yn meddwl bod e’n edrych yn naturiol iawn.”   

‘Ategu maeth’ 

Er mai un noson ar ddiwedd mis Hydref yw Calan Gaeaf mae'r gwaith o baratoi yn dechrau chwe mis yn flaenorol.

Yn ystod cyfnod y gwanwyn, mae Tom a Beth Evans yn ddechrau ar y gwaith o baratoi'r pwmpenni.

Maen nhw'n prynu'r pwmpenni yn fis oed ac yna yn eu plannu ar dir y fferm yn ystod mis Mai a Mehefin, a hynny’n barod ar gyfer eu gwerthu yn ystod mis Hydref. 

Mae Pwmpenni Pendre yn awyddus i hyrwyddo cynaliadwyedd fel rhan o’u busnes, ac mae nifer o’u cwsmeriaid yn bwyta’r pwmpenni yn ogystal â’u haddurno. 

“I ni yn siarad gyda lot o gwsmeriaid ac mae ‘na ganran mawr o’r bobl ‘dyn ni ‘di siarad gyda yn eu bwyta, so dim jyst rhai sydd yn carfo ac yn gwastraffu," meddai Tom Evans.

“I ni hefyd yn ymwybodol o bobl sy’n eu carfo a chadw’r hadau i fwydo’r adar gwyllt.

“O ran ni hefyd, ni’n neud yn siŵr bod ni’n plannu digon bod ‘na tua 1,000 ar ôl mas yn y cae so ni wedyn yn ategu maeth yn ôl i’r cae.

“Felly unrhyw faeth ni ‘di tynnu o’r cae o dynnu’r pwmpenni ni’n sicrhau - rhwng y gwrych yn pydru a’r pwmpenni sydd yn weddill - ni’n rhoi’r maeth nol mewn i’r cae sy’n ategu ffrwythlondeb hefyd."

Bydd Pwmpenni Pendre yn ail agor fis Hydref nesaf, meddai, gan werthu amrywiaeth o bwmpenni o bob lliw a maint unwaith eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.