Heddlu Portiwgal 'wedi ymddiheuro' i rieni Madeleine McCann
Mae heddlu Portiwgal wedi ymddiheuro i rieni Madeleine McCann am y ffordd wnaethon nhw ymateb pan aeth y plentyn ar goll, yn ôl rhaglen Panorama y BBC.
Fe ddiflannodd Madeleine McCann o’i llety gwyliau yn yr Algarve ym mis Mai, 2007.
Teithiodd dirprwyaeth o uwch swyddogion yr heddlu o Lisbon i Lundain yn gynharach eleni ac ymddiheuro i’r rhieni am y ffordd y gwnaethon nhw eu trin.
Yn ôl rhaglen BBC Panorama roedden nhw wedi cwrdd â thad Madeleine, Gerry McCann.
Nid yw’r teulu wedi ymateb yn gyhoeddus i’r ymddiheuriad, ac mae diflaniad eu merch yn dal heb ei ddatrys.
Hanes
Ym mis Medi 2007, bedwar mis ar ôl i Madeleine fynd ar goll, dywedodd heddlu Portiwgal fod Kate a Gerry McCann yn “arguidos” – a hynny’n golygu eu bod nhw eu hunain o dan amheuaeth o gyflawni trosedd.
Roedd yr heddlu yn amau eu bod nhw wedi cuddio corff Madeleine McCann. Cafodd hynny ei ddiystyru gan yr heddlu yn 2008.
Goncalo Amaral oedd yr uwch dditectif a wnaeth arwain yr ymchwiliad yn wreiddiol. Cafodd Mr Amaral ei dynnu oddi ar ymchwiliad ond fe ysgrifennodd llyfr yn cyhuddo’r teulu o fod ynghlwm a diflaniad y ferch.
Cafodd achos enllib gan y teulu yn erbyn y cyn-dditectif ei daflu allan o Lys Goruchaf Portiwgal yn ddiweddarach.
Apeliodd Kate a Gerry McCann i Lys Hawliau Dynol Ewrop yn sgil y canlyniad ond fe wnaethon nhw golli’r achos ym mis Medi 2022.
Yr ymchwiliad yn parhau
Mae’r heddlu yn yr Almaen bellach yn amau Christian Brueckner, 46 oed, o chwarae rhan yn niflaniad Madeleine McCann.
Cyhoeddwyd yn 2022 ei fod ymysg y rhai oedd yn cael eu hamau gan heddlu Portiwgal o chwarae rhan yn niflaniad Madeleine McCann.
Nid yw wedi ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â’r achos ac mae’n gwadu unrhyw gysylltiad.