Israel yn annog Rwsia i amddiffyn eu dinasyddion ar ôl i dorf ymosod ar faes awyr
Mae Israel wedi galw ar Rwsia i sicrhau bod eu dinasyddion yn saff ar ôl i dorf ymosod ar faes awyr yn Dagestan, gyda rhai ohonyn nhw’n gweiddi sloganau gwrthsemitaidd.
Roedd fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos torf yn symud drwy faes awyr Makhachkala, gydag adroddiadau eu bod nhw’n chwilio am deithwyr oedd wedi cyrraedd o Tel Aviv yn Israel.
Roedd rhai yn chwifio baneri Palestina ac yn gweiddi "Allahu Akbar".
Dywedodd swyddfa Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, fod angen i Rwsia weithredu er mwyn atal trais yn erbyn Iddewon ac Israeliaid.
Roedd Israel “yn disgwyl i’r awdurdodau yn Rwsia amddiffyn diogelwch holl ddinasyddion Israel ac Iddewon ble bynnag y maen nhw ac i weithredu’n gadarn yn erbyn y terfysgwyr ac yn erbyn y rheini sy’n annog trais yn erbyn Iddewon ac Israeliaid.”
Inline Tweet: https://twitter.com/nexta_tv/status/1718686535514456105?s=20
Dywedodd asiantaeth ehediadau Rwsia, Rosaviatsia bod lluoedd diogelwch wedi atal unrhyw wrthdaro.
Cafodd ugain o bobl eu hanafu, gan gynnwys rhai swyddogion heddlu, meddai gweinidogaeth iechyd Rwsia. Mae gan rai anafiadau difrifol ac mae dau mewn cyflwr difrifol.
Bydd y maes awyr ar gau nes dydd Mawrth, meddai Rosaviatsia, ac mae adroddiadau o’r wlad fod 60 o bobl wedi eu cadw yn y ddalfa.
Mae Dagestan yn weriniaeth sy’n rhan o Rwsia sydd wedi'i lleoli ar Fôr Caspia, yng Ngogledd y Cawcasws yn Nwyrain Ewrop. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd yn 2012 roedd 83% o’r boblogaeth yn Fwslemiaid.