Newyddion S4C

Cyfweliad annisgwyl capten De Affrica gydag S4C funudau ar ôl ennill Cwpan Rygbi'r Byd

29/10/2023

Cyfweliad annisgwyl capten De Affrica gydag S4C funudau ar ôl ennill Cwpan Rygbi'r Byd

Fe wnaeth capten y Springboks, Syia Kolisi, wneud ymddangosiad annisgwyl ar S4C nos Sadwrn, yn dilyn buddugoliaeth ei dîm yn erbyn Seland Newydd. 

Mae’r Springboks yn Bencampwyr y Byd am y pedwerydd tro – y tîm dynion cyntaf i gwblhau'r gamp erioed. 

Ar ôl derbyn ei fedal a dathlu gyda’i gyd-chwaraewyr cerddodd Siya Kolisi heibio i dîm darlledu chwaraeon S4C. 

Cymerodd ei amser gan gynnal sgwrs annisgwyl am ei brofiad ar y noson gyda’r gyflwynwraig Sarra Elgan Easterby, cyn-chwaraewr Cymru Mike Phillips a’r maswr Rhys Patchell. 

Wrth ymateb i’r fuddugoliaeth dywedodd Kolisi: "Does gen i ddim geiriau.

"Dylwn ni ddim bod yma. Rydyn ni wedi brwydro, a brwydro, a brwydro. 

"Rwy'n falch iawn o'r bois ond da iawn i Seland Newydd hefyd."

Aeth ymlaen i ganmol tîm rygbi Cymru ar ei hymgyrch yng Nghwpan y Byd eleni. 

“Rwy’n gwybod pa mor galed mae’r Cymry yn gweithio. 

“Roeddwn i’n gwybod bod y tîm yn mynd trwy gyfnod heriol ac o’n i’n gwybod bydden nhw’n dod at ei gilydd. 

“Fe wnaethon nhw gyrraedd y cwarteri, ar ôl popeth maen nhw wedi bod trwyddo ac mae dal ffordd bell gyda nhw i fynd.

“Fe fydd Jac Morgan yn parhau i arwain y tîm yna i’r Cwpan y Byd nesaf” meddai Kolisi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.