Newyddion S4C

Brwydro ffyrnig yng ngogledd Gaza wrth i luoedd Israel ddwysau eu hymosodiad

29/10/2023
Gaza IDF

Mae adroddiadau bod brwydro ffyrnig yng ngogledd Gaza ddydd Sul wrth i luoedd Israel ddwysau eu hymosodiad ar gadarnleoedd Hamas.

Dywed byddin Israel bod rhagor o filwyr wedi croesi i mewn i diriogaeth Gaza dros nos, gydag awyrennau'n bomio 450 o dargedau.

Daw'r brwydro fel dial am ymosodiad gwaedlyd Hamas ar Israel ar 7 Hydref pan gafodd 1,400 o bobl eu lladd a 230 wedi eu cipio fel gwystlon.

Yn ôl Hamas, mae 8,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd ers dechrau ymgyrch filwrol Israel.

Mae meddygon yn un o brif ysbytai Dinas Gaza yn dweud eu bod wedi derbyn gorchymyn i adael yr adeilad.

Mae 400 o gleifion yn derbyn triniaeth yn ysbyty Al-Quds, gyda 14,000 o sifiliaid yn llochesu yn yr adeilad a'r tir cyfagos.

Mae pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud bod adroddiad Cilgant Coch Palesteina ei fod wedi derbyn rhybuddion gan awdurdodau Israel i wacáu ysbyty Al-Quds yn “bryderus iawn.”

“Mae adroddiad Cilgant Coch Palesetina o fygythiadau i wacáu i ysbyty Al-Quds yn Gaza yn peri pryder mawr,” meddai Tedros Adhanom Ghebreyesus.

“Rydyn ni’n ailadrodd - mae’n amhosib gwagio ysbytai sy’n llawn cleifion heb beryglu eu bywydau.”

Mewn datganiad fideo ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Cilgant Coch Palesteina nad oes ganddo’r modd i wagio'r ysbyty. 

“Mae gennym ni dros 400 o gleifion sydd y tu mewn i’r ysbyty, llawer ohonyn nhw yn yr uned gofal dwys. 

"Mae eu gwacáu yn golygu eu lladd. Dyna pam rydyn ni’n gwrthod y gorchymyn gwacáu,” meddai cynrychiolydd o’r grŵp.

“Rydyn ni’n galw ar y gymuned ryngwladol i ymyrryd ar unwaith i atal trychineb dyngarol sy’n datblygu.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.