Newyddion S4C

Galw ar bleidiau gwleidyddol i wneud mwy i ddenu pobl o gefndir lleiafrifol ethnig i wleidyddiaeth

Newyddion S4C 27/10/2023

Galw ar bleidiau gwleidyddol i wneud mwy i ddenu pobl o gefndir lleiafrifol ethnig i wleidyddiaeth

Ma na alw o’r newydd ar bleidiau gwleidyddol a'r Llywodraeth i wneud mwy i ddenu pobl o gefndir lleiafrifol ethnig i wleidyddiaeth, ar lefel leol a chenedlaethol.

Fe ddaw’r alwad gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol ar Fis Hanes Bobl Ddu. 

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig fe ddylid dewis ymgeiswyr “ar sail eu gallu ac nid ar sail eu rhyw, hil neu nodwedd warchodedig arall.” 

Rhoddwyd cais i’r pleidiau eraill am ymateb.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fydd eu Bil Etholiadau Newydd yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr er mwyn cynyddu amrywiaeth aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol.

Gofyn cwestiynau

Gyda’i wreiddiau yn Rwanda a Burundi, mae Bowen Cole o Abertawe yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, ond wrth edrych ar siambr Bae Caerdydd, mae e am weld newid. 

“Mae angen i ni ofyn ein hunan, ac yn benodol y Senedd, pam nad ydyn ni’n cael llawer o bobl ddu yma?” meddai. 

“Pam nad ydyn ni’n blaenoriaethu pobl o gefndir ethnig i weithio yma? 

“Beth ydyw Cymru os ni ddim yn cael pawb Cymraeg”.

Allan o’r 60 ASau yn Senedd Cymru dim ond tri aelod sydd o gefndir lleiafrifol ethnig gyda dau yn y Blaid Geidwadol, un yn y Blaid Lafur a does dim un ym Mhlaid Cymru na’r Democratiaid Rhyddfrydol. 

Image
Y Senedd
Allan o’r 60 Aelod yn Senedd Cymru dim ond tri sydd o gefndir lleiafrifol

Ac yn ôl ffigyrau Senedd Cymru, mae 10% o Aelodau Senedd San Steffan sydd o gefndir lleiafrifol ethnig, 4.7% yn Senedd Holyrood a does dim yr un aelod yn Senedd Stormont.

“Mwy gwyn, mwy hen, mwy gwrywaidd”

Yn ddiweddar fe ddaeth un o bwyllgorau’r Senedd i’r casgliad nad oedd cynghorau tref a chymuned ac awdurdodau lleol yn gynrychiolaeth o’r boblogaeth.

“Mae ein cynghorau Sir ni yn dueddol o fod yn fwy gwyn, yn fwy hen ac yn fwy gwrywaidd,” meddai Dr Nia Thomas o’r Gymdeithas Ddiwygio etholiadol. 

“Byddwn yn hoff iawn o weld mwy o weithredu ac mae angen i hynny ddod o bob rhan. O Lywodraeth Cymru, y pleidiau a llywodraethau lleol. 

“Does dim un silver bullet, ond llawer o waith i wneud mewn nifer o wahanol lefydd.”

Erbyn hyn mae rhai pleidiau'n defnyddio rhestr ymgeiswyr benywaidd yn unig mewn rhai etholaethau i geisio sicrhau cynrychiolaeth decach.

Hefyd mae yna gronfa ar gael i bobl gydag anableddau, sy’n eu helpu gyda chostau sefyll mewn etholiad. 

Wedi ei ethol yn ddiweddar yn gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith, mae Josef Gnagbo, sy’n wreiddiol o'r Arfordir Ifori am weld pobl o gefndir lleiafrifol ethnig yn sefyll mewn etholiadau. 

“Rydyn ni’n dod a phrofiadau gwahanol. Felly, efallai bod datrysiad a syniadau newydd gyda ni i gyfrannu,” meddai.

“Os mae cyfle yn dod, fyddwn yn hoffi trio.”

Image
Y Senedd
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig fe ddylid dewis ymgeiswyr 'ar sail eu gallu ac nid ar sail eu rhyw, hil neu nodwedd warchodedig arall' 

Fe ddywedodd Darren Millar AS, llefarydd yr wrthblaid ar faterion cyfansoddiadol: "Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi dyheadau ar gyfer Senedd fwy amrywiol, rydym yn credu'n gryf y dylid dewis ymgeiswyr ar sail eu gallu, nid ar sail eu rhyw, hil neu nodwedd warchodedig arall. 

"Yn hytrach na chyflwyno cwota, mae angen i bob plaid wleidyddol yng Nghymru weithio'n galetach i ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru i annog darpar ymgeiswyr i gyflwyno eu hunain."

Rhoddwyd cais i Lafur Cymru, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol am ymateb. 

Bil Etholiadau newydd

Fe ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n awyddus i annog ac ennyn brwdfrydedd mwy o bobl i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd. Mae cynyddu amrywiaeth aelodau etholedig yn helpu cynghorau i gynrychioli'r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu'n well.

"Bydd ein Bil Etholiadau newydd yn sicrhau bod cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr er mwyn cynyddu amrywiaeth aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.