‘Hudolus’: Beth sy'n gwneud Marathon Eryri mor arbennig?
‘Hudolus’: Beth sy'n gwneud Marathon Eryri mor arbennig?
Bydd miloedd o redwyr, cefnogwyr a gwirfoddolwyr yn heidio i Lanberis fore Sadwrn ar gyfer Marathon Eryri.
Mae tua 2,800 o redwyr yn paratoi i gymryd rhan mewn ras sy’n cael ei hystyried fel yn un o’r rasus ffordd fwyaf heriol yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r ras yn amgylchynu’r Wyddfa, wrth i redwyr ddringo i frig Pen y Pas cyn ymlwybro drwy Fethania, Beddgelert, Rhyd Ddu a Waunfawr, a chyrraedd y llinell derfyn ynghanol bywiogrwydd Llanberis.
Bydd enillwyr y ras yn 2022, Dan Kashi o Abergele, a Caroline Brock o Sheffield yn dychwelyd eleni, gan obeithio ennill tarian Eryri am yr ail flwyddyn o’r bron.
Un sydd wedi cymryd rhan yn y ras sawl gwaith, fel rhedwr ac fel cyflwynydd teledu, yw’r athletwraig ultra, Lowri Morgan.
'Ras gymunedol'
“Mae hwn yn un o’r rasus gorau ym Mhrydain - oherwydd y dirwedd, oherwydd pa mor galed yw hi, oherwydd y prydferthwch a hefyd y brawdgarwch a’r chwaeroliaeth sydd yna," meddai Lowri Morgan.
"Os y’ch chi byth eisiau gweld natur ddynol ar ei orau, cerwch i wylio Marathon Eryri.
“Dwi’n credu bod y ffaith bod pawb yn dod mas i gefnogi yn wneud hi yn ras gymunedol hefyd. Dwi di bod yna pan mae’r person olaf yn dod i mewn saith awr yn hwyrach ac mae ‘na dal pobol mas ar y strydoedd yn cefnogi.
“Mae 'na deimlad agos atat ti, ac mae hwnna’n cael ei manifestio fel petai, ar y llinell derfyn. Pan ti’n dod mewn, ti’n gallu clywed y gweiddi wrth iti redeg mewn oddi ar y mynydd ac i mewn i’r pentre’, ac mae clywed y bobol yn gweiddi yn hwb anferthol i gyrraedd y llinell derfyn.
"Ac mae just pawb yn cefnogi pawb. Mae’n hudolus bron. Achos bod e i gyd wedi cael ei gywasgu mewn i Lanberis ar y llinell derfyn, mae ‘na awyrgylch trydanol yn perthyn iddi."
'Uniaethu'
Eleni, bydd Lowri yn sylwebu ar raglen uchafbwyntiau’r ras ar S4C.
Ac er iddi hi gymryd rhan mewn rasus eithafol ledled y byd, o’r Arctig, i’r Amazon, i’r anialwch – mae hi’n ystyried yr ‘her’ o sylwebu fel un sydd yn ei chyffroi.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1717188250593288401?s=20
“Dwi yn sicr yn camu allan o’r parth cyfforddus ‘na am y tro cyntaf. Dwi’n nerfus ond yn edrych ymlaen yn fawr ar gyfer yr her newydd yma," meddai.
“Dwi di bod yn rili ffodus i weithio gyda phobl fel Gareth Roberts, a Nic Parry, sydd yn lleisio’r ras fel arfer ond sydd methu wneud e blwyddyn yma, ac maen nhw wedi dysgu lot i fi drwy gydol y blynydde fi ‘di bod yn gweithio ar raglenni fel Hanner Marathon Caerdydd, Ironman Cymru a Chyfres Triathlon Cymru.
“Mi fydda i’n gallu uniaethu gyda sut bydd y rhedwyr yn teimlo a fi’n edrych ymlaen i fod yn Llanberis unwaith eto.”
Bydd Uchafbwyntiau Marathon Eryri i’w gweld ar S4C am 20.00 ar nos Sul 29 Hydref.
Lluniau: SportsPicturesCymru