Newyddion S4C

Galw am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc Cymru

26/10/2023
Ar y bws

Mae aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi galw am drafnidiaeth gyhoeddus rhad ac am ddim i bobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru.

Daw'r alwad gan Bwyllgor Hinsawdd ac Amgylchedd y senedd ar ôl cynnal arolwg o 1,300 o bobl ifanc am eu dewisiadau trafnidiaeth. 

Roedd canlyniadau’r arolwg yn awgrymu fod pobl ifanc eisiau defnyddio opsiynau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, ond cost oedd y prif reswm pam na allent wneud hynny.

Dywedodd Elena Ruddy, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru: "Mae'n gwneud synnwyr y dylai trafnidiaeth fod yn rhad ac am ddim - mae bron yn talu amdano'i hun pan fydd mwy o bobl ifanc yn defnyddio'r gwasanaeth i fynd o le i le i weithio, i siopa neu i fynd allan. 

“Mae’n gwbl amlwg, mewn gwirionedd. Ac os ydyn ni’n sefydlu’r arferion da hyn ymhlith pobl ifanc, maen nhw’n fwy tebygol o barhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan maen nhw’n hŷn hefyd.” 

‘Rhwystredig’

Mae'r adroddiad Ffyrdd Gwyrdd, a gyhoeddwyd heddiw, yn dweud bod saith o bob deg o’r ymatebwyr i’r arolwg wedi ystyried yr effaith amgylcheddol wrth benderfynu sut i fynd i rywle.

Dywed yr adroddiad fod pobl ifanc yn gyffredinol yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru y dylai 45 y cant o deithiau gael eu gwneud ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2040.

Ond roedd y Pwyllgor yn teimlo’n “rhwystredig” o weld nifer o rwystrau ymarferol sy’n atal ymatebwyr rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig y gost, medden nhw.

Dim ond 22 y cant o bobl ifanc a ddywedodd fod pris tocynnau bws yn dda neu’n dda iawn, a dim ond 21 y cant a ddywedodd fod pris tocynnau trên yn dda neu’n dda iawn. 

Dywedodd bron i hanner y bobl ifanc a ymatebodd i’r arolwg y byddent yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lawer mwy pe bai trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim i bobl dan 25 oed. 

Dywedodd 27 y cant arall y byddent yn ei defnyddio ychydig yn fwy. 

Mae'r polisi eisoes wedi cael ei awgrymu gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yn yr adroddiad Costau Byw: Nawr ac yn y Dyfodol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022, sy’n dweud bod “Awdurdodau Lleol yng Nghymru eisoes yn treialu'r syniad o drafnidiaeth rhad ac am ddim neu am bris gostyngol iawn yn llwyddiannus.”

Ymateb

Tynnodd llawer o’r ymatebwyr i’r arolwg sylw hefyd at argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus fel rhwystr difrifol - gyda phobl ifanc o ardaloedd gwledig yn pryderu’n arbennig am y mater. 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y sylwadau gan gyfranogwyr y grwpiau ffocws: 

  • “Anaml y bydd amserlenni bysiau a threnau yn cysylltu, nid yw'r naill na'r llall yn ddigon dibynadwy i geisio symud rhwng y ddau, mae angen tocynnau gwahanol ar gyfer pob un” (person ifanc 22 oed, Caerffili)
  • “Nid oes pwynt canolog ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cysylltu â theithio llesol - nid yw llwybrau beicio yn cysylltu â chyfnewidfeydd trafnidiaeth” (person ifanc 16 oed, Sir Benfro)
  • “Car yw’r mwyaf dibynadwy, yr hawsaf a’r rhataf. Nid oes unrhyw opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar yr amseroedd/yn y lleoliadau sydd eu hangen” (Rhiant/gofalwr/gwarcheidwad)

Mae adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru yn gwneud cyfanswm o 13 o argymhellion, gan gynnwys mwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol a llwybrau teithio llesol mwy diogel. 

Bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a bydd Gweinidogion yn cael cyfle i ymateb mewn cyfarfod fis nesaf. 

Llun gan Dan Botan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.