Newyddion S4C

Cadeirydd Clwb Pêl-droed Everton, Bill Kenwright, wedi marw yn 78 oed

24/10/2023
bill kenwright.png

Mae Cadeirydd Clwb Pêl-droed Everton, Bill Kenwright, wedi marw yn 78 oed.

Roedd Bill Kenwright hefyd yn gynhyrchydd ffilmiau a theatr adnabyddus yn y West End.

Cafodd lawdriniaeth i dynnu tiwmor o'i iau wyth wythnos yn ôl.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Clwb Pêl-droed Everton eu bod nhw yn "galaru wedi marwolaeth y Cadeirydd Bill Kenwright CBE, a fu farw yn heddychlon neithiwr yn 78 oed, gyda'i deulu a'i anwyliaid yn bresennol."

Ychwanegodd y clwb eu bod wedi colli "cadeirydd, arweinydd, ffrind ac ysbrydoliaeth. Mae ein meddyliau a'n gweddïau ni gyd yn Everton gyda'i bartner Jenny Seagrove, ei ferch Lucy Kenwright, ei wyrion a phawb oedd yn ei adnabod a'i garu."

Roedd Bill Kenwright yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Everton, a daeth yn aelod ar fwrdd y clwb yn 1989, cyn cael ei benodi yn gadeirydd yn 2004. 

Cafodd ei eni yn ardal Wavertree yn ninas Lerpwl, sydd lai na phum milltir o stadiwm Everton, Goodison Park. 

Chwaraeodd gymeriad Gordon Clegg yn opera sebon Coronation Street rhwng 1968 a 2012. 

Yn ystod ei yrfa fel cynhyrchydd, gweithiodd ar sawl clasur, gan gynnwys sioe gerdd 'Blood Brothers', a chynhyrchiad Tim Rice ac Andrew Lloyd Webber, 'Joseph And The Amazing Technicolor Dreamcoat'.

Wedi i Bill Kenwright gael ei benodi yn gadeirydd yn 2004, fe wnaeth y clwb sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr flwyddyn yn ddiweddarach, bron i 10 mlynedd ers y tro diwethaf iddynt sicrhau'r un gamp.

Yn 2016, gwerthodd hanner yr hyn yr oedd yn berchen arno gyda'r clwb i'r dyn busnes Farhad Moshiri, ond arhosodd fel cadeirydd.

Fe wnaeth Mr Moshiri barhau i gynyddu ei rôl fel rhanddeiliad dros y chwe blynedd nesaf, ond cytunodd ym mis Medi eleni i werthu ei gyfran i gwmni buddsoddi 777 Partners yn America, ac mae'r cytundeb yn disgwyl i gael ei gymeradwyo gan reoleiddwyr ar hyn o bryd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.