Dros filiwn o blant Prydain yn byw 'yn y math mwyaf eithafol o dlodi'
Fe brofodd bron i bedair miliwn o bobl, gan gynnwys mwy na miliwn o blant, y math mwyaf eithafol o dlodi yng ngwledydd Prydain y llynedd, yn ôl adroddiad newydd sy’n disgrifio “lefelau arswydus o amddifadedd” fel dewis gwleidyddol.
Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree fod y ffigyrau ar gyfer tlodi plant bron wedi treblu ers 2017 ac wedi cyrraedd miliwn am y tro cyntaf ers iddo ddechrau ei ymchwil yn 2015.
Profodd tua 3.8 miliwn o bobl amddifadedd yn 2022, meddai’r elusen, gan ychwanegu bod y ffigwr wedi mwy na dyblu o 1,550,000 yn 2017.
Roedd nifer y plant ymysg y cyfanswm yn 1.04 miliwn, i fyny o 362,000 yn 2017.
Mae'r sefydliad yn diffinio amddifadedd fel pan na all rhywun fforddio'r hyn sydd ei angen arnynt i ateb eu hanghenion corfforol mwyaf sylfaenol i aros yn gynnes, yn sych, yn lân ac i gael eu bwydo.
Cyfuniad o ffactorau
Mae’r adroddiad yn dweud bod y cynnydd o ganlyniad i gyfuniad o incwm isel iawn, costau byw cynyddol a lefelau uchel o ddyled.
Ond dywedodd hefyd fod y system nawdd cymdeithasol yn methu ag amddiffyn pobl rhag amddifadedd, gyda bron i dri chwarter (72%) o'r rhai anghenus yn derbyn budd-daliadau.
Tra bod pobl sengl rhwng 25 a 44 oed yn parhau i fod y grŵp allweddol sy’n profi tlodi, mae mwy o deuluoedd a phobl hŷn bellach yn amddifad, meddai’r adroddiad.
Yn amlach na pheidio mae elusennau yn ceisio llenwi'r bylchau i bobl mewn sefyllfaoedd enbyd, meddai'r adroddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Ein prif flaenoriaeth yw gostwng chwyddiant oherwydd bydd hynny’n helpu arian pawb i fynd ymhellach.”
Amlinellodd y llefarydd gefnogaeth ariannol “gwerth cyfartaledd o £3,300 y cartref” sydd wedi ei ddarparu hyd yma, yn ogystal â buddsoddiad o £3.5 biliwn i helpu pobl i mewn i waith, ac ehangu gofal plant am ddim.