
Undebau ffermwyr yn croesawu defnydd technoleg lloeren er mwyn monitro tir amaethyddol
Mae undebau ffermwyr yn croesawu defnydd technoleg lloeren er mwyn monitro sut mae eu tir yn cael ei ddefnyddio.
Mae cwmni o Aberystwyth, Environment Systems, wedi ennill tendr gwerth £525,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn profi’r defnydd o ddelweddau lloeren i fonitro sut mae tir amaethyddol yn cael ei ddefnyddio.
Bydd y dechnoleg yn helpu er mwyn gweithredu’r taliadau i ffermwyr sydd yn ymgymryd â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fydd yn weithredol yn 2025.
Fel rhan o gynigion y cynllun, mae’r Llywodraeth wedi gofyn i ffermwyr sicrhau fod 10% o’u tir wedi ei orchuddio gan goed, yn ogystal â neilltuo 10% ar gyfer cynnal a gwella cynefinoedd lled-naturiol.
Mae’r undeb NFU Cymru wedi beirniadu elfennau o’r cynllun newydd yn y gorffennol, gan ddweud bod y gofynion yn ‘rhwystr gwirioneddol’ i ffermwyr sydd eisiau bod yn rhan ohono.
Mae’r undebau yn credu bod yr egwyddor o ddefnyddio lluniau lloeren er mwyn monitro sut mae’r tir yn cael ei ddefnyddio yn un all arbed arian ac amser i ffermwyr. Ond wedi problemau gyda system debyg yn y gorffennol, fel cysgodion yn creu cam-argraffiadau ar fapiau, mae galwadau ar i'r dechnoleg cael ei diwygio
‘Rhoi hyder i’r diwydiant amaeth’

Wrth ymateb i'r datblygiadau diweddaraf, dywedodd Gareth Parry, Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru: “Wrth gwrs fydd ‘na phryder ar draws y diwydiant amaeth am sut mae’r maps a’r data yma yn cael ei ddefnyddio gan y Llywodraeth, ond ar ddiwedd y dydd, os mae system yn ei le lle mae’r maps yma yn wneud e’n llai costus ar gyfer y Llywodraeth i adeg y cynllun, sy’n golygu fod mwy o bres yn mynd tuag at y ffermydd, mae hynny’n beth da.
“Da ni di gweld yn y gorffennol pan mae maps anghywir ‘di creu problemau i’r ffermydd, ble maen nhw wedi trial mynd mewn i gynllun grant ac mae’r maps wedi bod yn anghywir i gymharu â be sy’n digwydd ar y fferm go iawn.
“Bydd rhai ffermydd yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn cadw llygad ar beth maen nhw’n wneud bob dydd, ond eto, mae o i fyny i’r llywodraeth Cymru wneud yn siŵr fod ffermwyr yn deall sut yn union mae’r data yn cael ei ddefnyddio, a bod ffermwyr yn cael eu talu am adael i’r llywodraeth ddefnyddio’r data yna, a chael mynediad at y data ar gyfer ffermydd eu hunain hefyd.
“Mae’n bwysig bod y maps yn cael eu diweddaru cyn mae’r cynllun newydd ffermio cynaliadwy yma yn cychwyn, achos dyna yw’r cynllun fydd yn cefnogi bob math o daliadau i’r byd amaeth o 2025 ymlaen. Mae’n bwysig ei fod yn rhoi hyder i’r diwydiant amaeth fod y data yma yn gwella’r stori sydd yma gennym ni yng Nghymru.
“Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae’n costio ryw wyth gwaith yn fwy i redeg cynllun amgylcheddol sydd angen asesiad wyneb i wyneb ar gyfer pob ffarm, felly mae unrhyw system sy’n defnyddio ffordd awtomatig o weithio'r taliadau yn mynd i sicrhau fod mwy o bres yn mynd i’r ffermwr yn y pen draw.
“Mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hybu’r diwydiant a helpu gwerthu’r bwyd ni’n cynhyrchu yma. Dyna’r ffordd ni ishe gweld y maps a’r data yma’n cael ei ddefnyddio.”
‘Pryder a straen’
Dywedodd llefarydd ar ran NFU Cymru: “Mae rheolau ac arolygiadau yn cyfrannu’n sylweddol at straen a phryder o fewn y diwydiant amaethyddol - roedd hwn yn ganfyddiad sylfaenol mewn adroddiad yn 2019 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl, ‘Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd’.
“Gall NFU Cymru felly weld manteision o ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gefnogi cydymffurfiaeth o bosibl a lleihau’r baich o lenwi ffurflenni ac archwiliadau ar deuluoedd fferm.
“Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod modd gweithredu tu hwnt i’r dechnoleg lle bo angen. Ar hyn o bryd mae Taliadau Gwledig Cymru yn defnyddio delweddau lloeren o bell fel rhan o'u trefn archwilio ac mae'n amlwg nad yw'r dechnoleg bob amser yn adlewyrchu'r sefyllfa ar lawr gwlad yn gywir.
“Mae materion yn ymwneud â chysgodion coed a gwrychoedd sy'n arwain at y dechnoleg yn lleihau'r arwynebedd cymwys o gaeau yn enghraifft dda lle canfuwyd bod y dechnoleg yn ddiffygiol. Mae gallu ffermwr i roi eglurhad pan fydd y llywodraeth yn defnyddio ddelweddaeth loeren, a hynny cyn gosod unrhyw gosb, yn gwbl hanfodol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae technoleg lloeren wedi cael ei defnyddio ers sawl blwyddyn i fonitro’r amgylchedd.
“Diben y contract yw archwilio’r posibiliadau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio technolegau Arsylwi ar y Ddaear (lloeren) i gyflawni gwell effeithlonrwydd a gwell dealltwriaeth o amgylchedd Cymru, er enghraifft faint o gynefinoedd lled-naturiol a chnydau âr sydd ledled y wlad.”