Newyddion S4C

Sefydliad Iechyd y Byd yn galw ar Israel i ailystyried gorchymyn i bobl adael gogledd Gaza 

23/10/2023
Ysbyty Gaza

Mae'r weinyddiaeth iechyd yn Gaza sy'n cael ei rhedeg gan Hamas yn dweud bod 436 o bobl wedi eu lladd yno yn y 24 awr ddiwethaf, wrth i ymosodiadau'r Israeliaid barhau. 

Yn ôl Israel, maen nhw'n targedu isadeiledd Hamas,  a hynny'n 320 o dargedau bob dydd.  

Mae Israel wedi gorchymyn i bawb yng ngogledd Gaza i adael y rhanbarth, gan gynnwys y rhai mewn ysbytai.

Dros y penwythnos, rhybuddiodd  byddin Israel y byddai'r  streiciau awyr ar Gaza yn dwysau gan rybuddio Palesteiniaid sy'n dal i fod yng ngogledd y diriogaeth i ffoi i'r de.  

Ond mae’r dasg honno “bron yn amhosibl”, meddai llefarydd ar ran Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Tarik Jašarević ac mae’r sefydliad yn galw ar Israel i ailystyried y gorchymyn hwnnw.

“Mae yna gleifion sydd yno na ellir eu symud yn syml, mae yna lawer ar beiriannau anadlu mecanyddol, mae yna fabanod newydd-anedig yn derbyn triniaeth, pobl mewn amodau ansefydlog, ac mae'n anodd iawn eu symud,” meddai mewn cyfweliad gyda’r BBC. 

“Rydyn ni’n galw ar Israel i ailystyried y gorchymyn hwn,” meddai.

Yn ôl yr Unol Daleithiau mae Israel wedi cytuno y bydd “llif parhaus” o gymorth yn cael ei ganiatáu i mewn i Lain Gaza – ar ôl i ail gonfoi gyrraedd y diriogaeth o’r Aifft.

Dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod yr 14 tryc a gyrhaeddodd ddydd Sul wedi rhoi “llygedyn bach arall o obaith” i Balesteiniaid - ond rhybuddiodd fod angen “mwy, llawer mwy.”

Dywedodd Mr Jašarević fod pedwar tryc oedd yn cario deunydd llawfeddygol a thrawma, yn ogystal â meddyginiaethau ar gyfer clefydau cronig wedi cyrraedd Gaza trwy groesfan ffin Rafah yn ddiweddar, “ond nid yw hynny yn ddigon”.

Mae'r awdurdodau ym Mhalestina yn dweud fod 4,651 o bobl wedi marw yn Gaza ers cychwyn y gwrthdaro ar 7 Hydref, gyda 14,245 o bobl wedi eu hanafu.

Daw hynny wedi i o leiaf 1,405 o bobl cael eu lladd yn Israel mewn ymosodiadau gan Hamas, gyda 5,132 o bobl wedi eu hanafu. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.