Cymraeg ar Duolingo: Yr ap eisiau buddsoddi ‘adnoddau prin’ mewn ieithoedd ‘gyda galw uchel’
Mae cwmni Duolingo wedi dweud eu bod nhw eisiau buddsoddi “adnoddau prin” mewn ieithoedd “gyda galw uchel”.
Daw ar ôl iddyn nhw ddatgan na fydd y cwrs Cymraeg ar Duolingo yn cael ei ddiweddaru o fis Tachwedd ymlaen.
Mae’r tîm sydd wedi bod yn gweithio ar y cwrs Cymraeg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi pwysau ar Duolingo i ailystyried.
Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ddydd Sadwrn ei fod yn bwriadu ysgrifennu at y cwmni.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Duolingo eu bod nhw’n anelu at “atal diweddariadau ar y cwrs Cymraeg ym mis Tachwedd”.
“Ein bwriad yw buddsoddi adnoddau prin mewn i gyrsiau sydd â galw uchel fel Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg sy’n gwasanaethu cynulleidfa fawr yn y DU a ledled y byd,” medden nhw.
“Mae Cymraeg eisoes yn un o’n cyrsiau mwyaf cynhwysfawr, a bydd yn aros am ddim i bawb.
“Fe fydd yno o hyd ar gyfer pobl sydd eisiau dechrau dysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau.”
‘Allweddol’
Mae’r tiwtor iaith Richard Morse o Gasnewydd a gychwynnodd y cwrs yn 2015 wedi dweud ei fod wedi gobeithio ei gweld yn datblygu ymhellach.
Dywedodd wrth Newyddion S4C nad oedd yn eglur pam fod y cwrs yn cael ei rewi rwan gan nad oedd wedi cael diweddariad y tu hwnt i gywiriadau ers mis Ionawr 2021.
Dylai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ofyn am ragor o amser cyn rhewi'r cwrs fel bod modd ei datblygu fel ei fod yn cyd-fynd â safonau CEFR, y fframwaith Ewropeaidd er mwyn mesur gallu ieithyddol, meddai.
Mewn neges at ddefnyddwyr y cwrs dywedodd: “Cysylltwch â'r gweinidog a gofynnwch iddo ofyn am fwy o amser gan Duolingo er mwyn cwblhau’r gwaith o sicrhau bod y cwrs yn cyd-fynd â'r safonau dysgu ieithoedd rhyngwladol."
Dywedodd y gweinidog, Jeremy Miles ei fod yn bwriadu "ysgrifennu at Duolingo i'w holi i ystyried, sut, ynghyd â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, y gallwn eu cefnogi i sicrhau datblygiad pellach i'r cwrs Cymraeg".
"Mae Duolingo yn adnodd allweddol sy'n medru helpu dysgwyr ar eu taith i ddod yn siaradwyr Cymraeg," meddai.
Mae dros 650,000 yn defnyddio Duolingo Cymraeg ac mae dros 2m wedi lawrlwytho y cwrs yn ôl y tîm datblygu.
Yn 2021 cyhoeddwyd y byddai'r cwrs Cymraeg yn dod dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Wrth ymateb ar y pryd dywedodd Jeremy Miles: “Mae llwyddiant y cwrs Cymraeg ar Duolingo yn dangos bod galw go iawn i ddysgu’r iaith – dyma newyddion ardderchog wrth i ni weithio tuag at wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.