Apêl am dystion ar ôl i gerddwr farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd ddeuol
Mae’r heddlu yn apelio am dystion ar ôl i ddyn farw wedi gwrthdrawiad â cherbyd ar ffordd ddeuol yn Wrecsam yn oriau mân bore Sul.
Roedd y dyn yn cerdded ar yr A483 tua’r gogledd rhwng Cyffordd 4 (A525 Ffordd Rhuthun) a Chyffordd 5 (cyfnewidfa Ffordd yr Wyddgrug).
Wedi’r gwrthdrawiad cafodd y gwasanaethau brys eu galw ond bu farw'r dyn yn y fan a’r lle.
Dywedodd yr heddlu fod ei berthnasau agosaf a'r crwner wedi cael gwybod.
Roedd y ffordd ar gau am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor.
'Diolch'
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Donna Vernon: “Mae ein cydymdeimladau ni gyda theulu a ffrindiau’r dyn ar adeg anodd.
“Rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A483 ar adeg y digwyddiad, neu unrhyw un a allai fod â fideo camera yn eu cerbyd i gysylltu â ni.
“Hoffwn hefyd ddiolch i fodurwyr am fod yn amyneddgar tra bod y ffordd ar gau.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 23001039592.