Newyddion S4C

Gŵyl gerddoriaeth Sŵn yn gyfle i 'uno' y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg

Gŵyl gerddoriaeth Sŵn yn gyfle i 'uno' y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg

Mae gŵyl gerddoriaeth Sŵn yn gyfle i uno'r Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg mewn dathliad o gerddoriaeth Cymru yn ôl rhai o’r artistiaid sy’n perfformio yno eleni.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ledled Caerdydd ddydd Sadwrn a Sul.

Mae dros 100 o gerddorion a bandiau ar y rhestr perfformwyr – gyda rhai yn perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg, ag eraill yn perfformio yn Saesneg. 

Siaradodd Newyddion S4C gydag artistiaid oedd yn canmol trefnwyr yr ŵyl, Clwb Ifor Bach, am y naws ddwyieithog. 

Dywedodd Katie Hall, sef prif leisydd y band CHROMA, ei fod yn braf gweld bandiau Cymraeg “ar yr un bil a bandiau Saesneg”.

“Fel Cymry Cymraeg, ‘dyn ni’n byw mewn dwy iaith ac mae’n neis cael gweld bands Cymraeg ar yr un bil a bands Saesneg,” meddai.

“Trwy gydol y flwyddyn ti’n cael gigiau Cymraeg ond mewn gŵyl fel Sŵn ti’n gweld bands ar yr un bil â band arall o Lundain.

“Ac mae hynna’n golygu falle bydd rhywun sy’n dod i weld band arall, maen nhw’n digwydd dod ar draws band Cymraeg maen nhw’n lico.

“Gyda cherddoriaeth dwi'n meddwl bod hynna’n beth rili pwerus bod pobl yn gallu mynd ac wedyn darganfod stwff newydd.”

Ymhlith y perfformwyr eleni mae artistiaid cyfarwydd megis Sage Todz, Cerys Hafana, Alffa, Ffenest, Minas a Gwcci. 

‘Cynulleidfa newydd’

Mae’r ŵyl yn gyfle i “uno” wahanol gynulleidfaoedd a “chymysgu dau fyd,” meddai aelodau’r band Ffenest. 

Dywedodd George Amor: “Dwi’n teimlo fod o’n cymysgedd o ddau fyd yno.

“O fatha Cymry Cymraeg a bobol yng Nghymru ond yn ddi-Gymraeg.”

Ychwanegodd ei gyd-aelod o’r band, Ben Ellis: “Mae ‘na gymysgedd da o bobol, ar y ddwy ochor dwi meddwl.

“Mae’n eitha’ unigryw fel festival ‘lly.” 

Mae’n hollbwysig i fandiau iaith Cymraeg gael y cyfle i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd newydd, meddai prif leisydd Alffa, Dion Wyn Jones. 

“Dwi meddwl mae’n bwysig yng Nghymru bod bandiau Cymraeg yn cael y cyfle i ‘neud stwff fel ‘ma a ‘neud pethau ychydig bach yn wahanol,” meddai.

“Mae’n gyfoethog o ran y dalent Gymraeg sydd yma ond tu hwnt i’r Gymraeg hefyd. Mae’n neis bod ‘na fringe bach yng Nghaerdydd,” ychwanegodd drymiwr y band, Sion Eifion Land.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.