Euro 2020: 'Byddwn ni'n taflu popeth mewn i'r gêm gyntaf yma'

Euro 2020: 'Byddwn ni'n taflu popeth mewn i'r gêm gyntaf yma'
Ar drothwy Euro 2020 mae Joe Allen yn gobeithio gall Cymru ddechrau'r bencampwriaeth yn yr un modd ag Euro 2016.
"I ystyried mae di bod pump mlynedd mae'n anodd credu," meddai'r chwaraewr canol cae wrth raglen Newyddion S4C.
"Ma ' pawb yn gwybod faint mor pwysig ma' y fath yma o twrnamaint i pawb yn personol, ond hefyd i'r wlad.
"Byddwn ni'n taflu popeth mewn i'r gêm gyntaf yma.
"Wrth gwrs ni'n chwarae tîm cryf, fyddwn nhw'n teimlo’r un ffordd, felly fydd yn gêm dda", ychwanegodd.
Bydd Cymru'n wynebu'r Swistir ddydd Sadwrn 12 Mehefin gyda'r gic gyntaf am 14:00.