Newyddion S4C

Tymor newydd y Bencampwraeith Rygbi Unedig yn ‘dalcen caled’ i'r rhanbarthau

21/10/2023

Tymor newydd y Bencampwraeith Rygbi Unedig yn ‘dalcen caled’ i'r rhanbarthau

Fe fydd tymor newydd Pencampwriaeth Rygbi Unedig yn ‘dalcen caled’ i ranbarthau rygbi Cymru, yn ôl cyn fachwr y Gweilch, Ifan Phillips.

Bydd y rhanbarthau yn cychwyn ar dymor newydd y penwythnos yma gyda wynebau newydd a gobaith newydd er gwaethaf rhai o'r amgylchiadau mwyaf heriol mae'r gamp broffesiynol yng Nghymru wedi ei brofi ers blynyddoedd.

Roedd y tymor diwethaf yn un anodd i’r Cymry, gyda’r Dreigiau, Scarlets a'r Gweilch yn gorffen yn y pedwar safle gwaelod, gyda Chaerdydd yn llwyddo i orffen yn 10fed.

Dyw pethau heb fod yn well oddi ar y cae, gyda sawl enw mawr fel Liam Williams, Gareth Anscombe a Will Rowlands yn symud i chwarae dramor yn sgil trafferthion ariannol y rhanbarthau.

Er bod adroddiadau y gallai un neu ddau o’r rhanbarthau ddiflannu'n gyfan gwbl, fis Mawrth, fe wnaeth y pedwar clwb arwyddo cytundeb ariannol chwe blynedd newydd gydag Undeb Rygbi Cymru.

Y canlyniad oedd toriad o £2 miliwn yng nghyllidebau’r rhanbarthau, sydd wedi arwain at gwtogi sylweddol ar bob carfan y tymor hwn.

'Sialens fawr'

Roedd y toriadau wedi effeithio gymaint fod y rhanbarthau wedi gorfod ymarfer gyda’i gilydd dros yr haf er mwyn sicrhau fod digon o chwaraewyr i gyflawni sesiynau, yn absenoldeb y chwaraewyr oedd i ffwrdd gyda Chymru yng Nghwpan y Byd.

Image
Ioan Lloyd
Un o chwaraewyr newydd y Scarlets, Ioan Lloyd
(Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Dywedodd cyn fachwr y Gweilch a Chymru Dan 20, Ifan Phillips: “Dwi’n gwybod o siarad gyda rhai o’r Gweilch, dwi’n gwybod bod nhw di bod bant yn ymarfer yn erbyn Bath, y Dreigiau a Chaerdydd, ac mae hwnna’n rwbath gwahanol maen nhw wedi gorfod gwneud yn ystod pre-season achos bod ddim gyda nhw’r numbers i fynd wyth yn erbyn wyth yn y pac, neu yn y llinell yn ymarfer.

“Bydd hi’n dalcen caled i’r rhanbarthau gyda nifer o cuts a phethau sydd wedi bod eleni, ond dw i’n gyffrous i weld y cyfleoedd byd y bois ifanc yn cael.

“Mae sawl chwaraewr profiadol wedi mynd i chwarae yn llefydd gwahanol sydd yn fodlon talu prisiau maen nhw’n teimlo bod nhw werth. ond y sialens fwyaf sy ‘da’r timoedd yw’r dyfnder yn y garfan, dyw e ddim cweit beth oedd e.

“Falle bydd y 15 cyntaf sydd ‘da nhw yn gryf iawn, neu’r 23 gyntaf, ond y trwbwl bydd pan fydd cwpwl o anafiadau yn cael eu pigo lan. Dyna pryd fydd y rhanbarthau yn stryglan tipyn.

“Daeth ystadegyn mas llynedd yn dweud bod ar gyfartaledd, mae 16% i 20% o’r garfan wedi ei anafu ar unrhyw bryd. Felly mae cael garfan llai ac wedyn ystyried yr anafiadau yna o hyd, mae’n sialens eitha’ mawr.”

'Cyfleoedd'

Ond gyda chwaraewyr profiadol eraill fel Alun Wyn Jones , Rhys Webb, Ross Moriarty a Tomas Francis hefyd wedi gadael, bydd hynny yn agor y drws i’r genhedlaeth newydd, yn ôl Ifan.

Image
Liam Williams (Llun: Asiantaeth Huw Evans)
Mae Liam Williams ymysg sawl chwaraewr sydd wedi gadael Cymru
(Llun: Asiantaeth Huw Evans)

“Os ti’n grwtyn ifanc, mae’n gyfnod eitha’ exciting i ti achos ti am gael cyfleoedd i chwarae. Ond mae'n rhaid gwneud yn siŵr fod y chwaraewyr yn ddigon aeddfed a bod nhw wedi aeddfedu digon i allu chwarae, yn enwedig mewn safle fel y rheng flaen, mae’n rhaid edrych allan amdanyn nhw hefyd.

“Falle bo fi’n bach yn biased ond dwi’n gweld lot o’r chwaraewyr ifanc cyffrous sy’n dod trwodd i’r Gweilch, fel Morgan Morse, Lewis Lloyd, Dan Edwards, fi’n gweld carfan gyffrous ganddyn nhw.

"Croesi bysedd fydd pob rhanbarth yn wneud yn dda ond fi’n credu mai’r Gweilch falle bydd yn pwsho’r timau eraill bach yn fwy.”

Bydd S4C yn dangos tair gêm yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig dros y penwythnos: Connacht v Gweilch am 14.45 ddydd Sadwrn, Caerdydd v Benetton am 17.00 ddydd Sadwrn, a Dreigiau v Caeredin am 16.05 ddydd Sul.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.