Cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sy'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau

Cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sy'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau
Roedd cynnydd o 50% yn nifer y bobl gafodd eu dal yn gyrru o dan ddylanwad cyffuriau yng Nghymru'r llynedd i 3,610, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu gweld gan BBC Cymru.
Mewn rhai ardaloedd, roedd y cynnydd yn ystod blwyddyn y pandemig bron yn 90%.
Mae'r elusen Brake yn gweithio gyda phobl sydd wedi eu hanafu neu gyda theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid mewn damwain ffordd.
Fe gollodd Llefarydd yr elusen, Jasmine Wilson ei mab Aled mewn damwain ffordd yn 2003.
Dywedodd Jasmine wrth raglen Newyddion S4C: “Pryd mae 'na ddamwain i chi'n gweld rhywun wedi cael i ladd ma'r teulu yn galaru am weddill eu hoes.
“Gan ystyried bod hynny o blaen y teulu oherwydd bod un person wedi bod mor hunanol ag yn anghyfrifol”, ychwanegodd.
Mae un plismon wedi dweud bod eleni yn debygol o fod yr un mor brysur â llynedd.
Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Heddlu’r Gogledd: “Y gair gorau 'swn i'n i ddefnyddio ‘di rhwystredig i ni felly achos bo 'na gymaint wedi cael eu harestio, ma' 'na dros 300 o arrests wedi cael i wneud flwyddyn yma'n unig. Tri ddoe yn digwydd bod.
“Dwi'm yn gwybod be di'r rheswm tu ôl idda fo i fod yn onest, ond unig beth dwi isio roi di neges glir iawn gan Heddlu Gogledd Cymru bo ni allan yn fanna yn trio tynnu'r trwyddedau 'ma oddi ar bobl, ella ma' dyna di'r unig ffordd ma' nhw'n mynd i ddysgu”.