Croeso yng Nghymru i'r cyffur newydd i drin Alzheimer's yn UDA

Croeso yng Nghymru i'r cyffur newydd i drin Alzheimer's yn UDA
Mae elusennau Alzheimer's yng Nghymru wedi croesawu'r newyddion fod cyffur newydd i'w drin wedi cael ei gymeradwyo yn Unol Daleithiau America.
Bydd Aducanumab yn cael ei ddefnyddio i dargedu achos y cyflwr yn hytrach na gwella'r symptomau.
Mae gan dros 30 miliwn o bobl ar draws y byd y cyflwr ac mae'n debygol y bydd rhaid aros blwyddyn cyn i'r feddyginiaeth gael ei chymeradwyo ym Mhrydain.
Dywedodd Cheryl Williams o Gymdeithas Alzheimer Cymru wrth raglen Newyddion S4C: "Os 'dan ni'n gosod hyn yn ei gyd-destun, does 'na ddim gwella i unrhyw un o'r cyflyra' sydd yn achosi dementia".
Ychwanegodd: "Mae'r darganfyddiad yma yn rhoi llygedyn o obaith i rywun sydd yn cael diagnosis o Alzheimer, ond diagnosis buan o Alzheimer's hefyd".
'Mor falch'
Tra bod croeso wedi bod i'r driniaeth newydd, mae eraill yn poeni fod y datblygiad wedi dod yn rhy hwyr.
Mae Robert Beattie o Abergele yn byw ag Alzheimer's.
Dywedodd ei wraig Karen wrth raglen Newyddion S4C: "O'n i'n ddigalon i ddechra' oherwydd i bobl sy' 'di gael o ac rhai o'n blaenau ni, mae'n rhy hwyr.
"Mae'n siwr wnaeth o gymrydd blynyddoedd iddo fo ddod allan yn y wlad yma 'lly.
"Ond go wir 'wan, dwi mor falch am be' sy'n mynd i ddigwydd efo'r tabledi yma de", ychwanegodd.