
Clybiau nos yn disgrifio digwyddiadau prawf o fod yn 'theatr wleidyddol'

Mae fforwm sy’n cynrychioli clybiau nos Caerdydd ac Abertawe yn disgrifo digwyddiadau prawf Llywodraeth Cymru fel “theatr wleidyddol”.
Daw hyn ar ôl deall na chafodd neb eu profi yng ngêm bêl-droed Dinas Abertawe fis diwethaf, er i’r Llywodraeth nodi’n wreiddiol y byddai’n rhaid profi pawb.
Yn ôl fforwm Unite For the Night, sy’n cynrychioli tua 170 o glybiau nos, mae’n warthus nad oedd y mesurau cywir mewn lle gan nad oes modd dadansoddi’r holl ddata.
Dywed Llywodraeth Cymru fod canllawiau eraill wedi cael eu cyflwyno yn ystod gêm Abertawe.
Ond mae'r fforwm yn beirniadu’r digwyddiad, ynghyd â’r wyth digwyddiad prawf arall, am beidio creu “amgylchiadau digwyddiadau go iawn”.
Mae Nick Newman o Unite For the Night yn teimlo bod digwyddiad prawf “heb brofi dim byd.”

Yn ôl Digwyddiadau Cymru, penderfynwyd peidio profi yn y gêm gan fod yr achosion o Covid-19 yn ardal Abertawe yn isel iawn ar y pryd. Roedd canllawiau’r llywodraeth yn cynnwys cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol a gwisgo masgiau hefyd.
Ond mae Nick Newman yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal digwyddiadau tebyg i’r rheiny yn Lloegr.
“Mae’r digwyddiadau dros y ffîn yn dangos bod cynnal digwyddiadau mawr heb wisgo masgiau yn ddim mwy o risg na mynd i siopa.”
“Ond, yma yng Nghymru, dydy’r digwyddiadau prawf yn ddim ond theatr wleidyddol, ac yn y cyfamser, mae’r diwydiant clybiau nos ar ei gliniau.”
Mae’n ofni bod datganiad diweddar Mark Drakeford am gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol am weddill y flwyddyn, yn ei gwneud hi’n “amhosib i glybiau nos a digwyddiadau byw i ail-agor.”
Yn ôl datganiad gan Unite for the Night, mae’n debygol y bydd rhwng 40% a 50% yn llai o glybiau nos yn bodoli erbyn iddynt gael ail-agor.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod “pob digwyddiad prawf yn dilyn asesiad risg unigryw.”
“Fe ddilynwyd canllawiau eraill yng ngêm bêl-droed Abertawe, sy’n cynnwys gwisgo masgiau ac ymbellhau’n gymdeithasol, er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddiad.”
Prif Lun: PA Media