
Cabinet Cyngor Gwynedd i ystyried argymhelliad i gau Ysgol Abersoch
Fe fydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar argymhelliad i gau Ysgol Abersoch ddiwedd y flwyddyn hon, pan fydd yr aelodau yn cwrdd ymhen wythnos.
Os bydd y Cabinet yn cefnogi’r argymhelliad, bydd rhybudd statudol yn cael ei gyhoeddi i gau'r ysgol, gyda’r disgyblion i symud i Ysgol Sarn Bach.
Dywed Cyngor Gwynedd fod 76% o lefydd gweigion yn yr ysgol.
Mae dyfodol yr ysgol wedi bod yn destun pryder i’r gymuned a’r cyngor ers nifer o flynyddoedd, gyda’r cyngor yn disgrifio’r sefyllfa fel un “fregus”.
O’r 32 lle yn yr ysgol, wyth o blant sy’n mynychu’n llawn amser, ac mae dau ddisgybl yn yr adran feithrin.
Dywed swyddogion y cyngor mewn dogfen ymgynghorol ar ddyfodol yr ysgol nad “yw’r rhagamcanion yn dangos y bydd cynnydd sylweddol i niferoedd disgyblion Ysgol Abersoch dros y blynyddoedd nesaf.”
Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng 12 Ionawr a 23 Chwefror 2021, gyda 154 o ymatebion yn dod i law.
Mae’r adroddiad yn nodi fod “y mwyafrif o’r ymatebion a dderbyniwyd yn datgan gwrthwynebiad i’r cynnig i gau Ysgol Abersoch”.

Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Rydw i’n llwyr werthfawrogi fod hyn yn gyfnod anodd ac mae hi yn destun tristwch pan mae rhaid ymgynghori ar ddyfodol unrhyw ysgol. Mae ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r holl opsiynau ddaeth gerbron ac rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu.
“Nid ar chwarae bach mae cyflwyno’r adroddiad yma, ond mae dyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn cynnig yr addysg a phrofiadau ynghyd a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant.
“Wedi gwerthuso'r holl opsiynau yn fanwl, ac ystyried y rhagamcanion y bydd niferoedd disgyblion yr ysgol yn parhau’n bryderus o isel am y blynyddoedd i ddod, mae’r argymhelliad y dylai Ysgol Abersoch gau ddiwedd 2021.
“Fel rhan o’r cynnig, byddai’r disgyblion yn cael cynnig mynychu Ysgol Sarn Bach sydd gerllaw o fis Ionawr 2022. Yn naturiol mae awydd clir wedi bod yn y pentref i weld parhad yr ysgol, a bydd pob ymdrech i sicrhau fod cyswllt clir yn parhau rhwng cymuned Abersoch ac Ysgol Sarn Bach lle mae nifer o ddisgyblion eisoes yn mynychu o oed Cyfnod Allweddol 2.”
Ar hyn o bryd, mae Ysgol Abersoch yn darparu addysg i blant hyd at wyth oed, gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Sarn Bach ar ddechrau’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn wyth oed.
Os bydd y Cabinet yn cefnogi’r argymhelliad, bydd rhybuddion statudol yn cael eu cyhoeddi i gau’r ysgol.
Bydd cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod wedi hyn, gydag adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i benderfynu a ddylai cadarnhau’r cynnig ai peidio.