Newyddion S4C

Tîm pêl-droed Cymru yn cyrraedd Baku

07/06/2021

Tîm pêl-droed Cymru yn cyrraedd Baku

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd Baku nos Lun ar drothwy ei hymgyrch ym mhencampwriaeth Euro 2020.

Fe adawodd Cymru faes awyr Caerdydd er mwyn teithio i wynebu'r Swistir, gyda'r gic gyntaf am 14:00 ddydd Sadwrn 12 Mehefin.

Yna, ar ddydd Mercher 16 Mehefin, fe fydd Cymru yn wynebu Twrci, gyda'r gic gyntaf am 17:00.

Bydd y garfan wedyn yn teithio i Rufain ar gyfer brwydr a'r Eidal ar ddydd Sul 20 Mehefin a fedrai fod yn un dyngedfennol i'r crysau cochion.

Daw ymgyrch EURO 2020 ar gefn dwy gêm gyfeillgar siomedig i Gymru, gyda cholled o 3-0 yn erbyn Ffrainc a gêm ddi-sgôr yn erbyn Albania nos Sadwrn.

Gallwch ddilyn ymgyrch Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2020 ar S4C.

Lluniau: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.