Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore Llun, 7 Mehefin.
Cymru yn dechrau symud i lefel rhybudd 1
Mae cyfyngiadau'r cyfnod clo wedi parhau i gael eu llacio yng Nghymru ddydd Llun, wrth i'r wlad ddechrau symud i lefel rhybudd 1. Bydd cam cyntaf y llacio yn galluogi i hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored a hyd at dair aelwyd i ffurfio aelwyd estynedig. Bydd gweithgareddau a digwyddiadau wedi eu trefnu yn cael cynnwys hyd at 10,000 o bobl hefyd, ond fe fydd angen dilyn canllawiau penodol.
Lansio cronfa £3m newydd i roi seibiant i ofalwyr di-dâl
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa newydd o £3 miliwn o roi seibiant i ofalwyr di-dâl. Daw'r cyhoeddiad ar ddechrau Wythnos y Gofalwyr a'r gobaith yw y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwella ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael.
Rakie Ayola o Gaerdydd yn ennill gwobr Bafta - WalesOnline
Roedd llwyddiant i'r actor Rakie Ayola o Gaerdydd yng ngwobrau'r Bafta nos Sul. Enillodd y wobr am Actores Gefnogol Orau am ei rhan yn y ddrama BBC, Anthony, a oedd yn adrodd hanes dyn ifanc o'r enw Anthony Walker a gafodd ei lofruddio yn 2005 mewn ymosodiad hiliol.
Apiau canlyn i annog pobl i gymryd brechlyn Covid-19 - The Independent
Bydd apiau canlyn yn annog pobl i gymryd brechlyn Covid-19 fel rhan o ymgyrch newydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Daw hyn wrth i bobl dan 30 oed ddechrau derbyn gwahoddiad i gael eu brechu yn Lloegr yr wythnos hon. Mae 60.2% o bobl rhwng 18 a 29 oed yng Nghymru eisoes wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn.
Dilynwch y diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.