Newyddion S4C

'Llawer o gwestiynau' ynghylch pasbort brechu

Newyddion S4C 06/06/2021

'Llawer o gwestiynau' ynghylch pasbort brechu

Ni ddylid trafod pasbort brechu nes y bydd pob oedolyn wedi cael cynnig brechlyn, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Dywedodd Eluned Morgan A.S. bydd rhaid i weinidogion wneud yn siŵr na wahaniaethir yn erbyn pobl pan fydd Llywodraeth Cymru yn trafod y posibilrwydd o ddefnyddio pasbort brechu. 

“Dwi ddim isie gweld vaccine passports tan ein bod ni wedi rhoi cynnig i bob un sydd dros ddeunaw i gael y frechlyn,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.

“Ar ôl hynny fe fydd trafodaeth yn mynd ymlaen tu fewn i'r cabinet ynglŷn ag os ydyn ni isie gweld hynny yn digwydd.

“Ma' raid i ni bwyso a mesur unwaith eto equality issues a sicrhau ein bod ni ddim yn disgirmineiddio yn erbyn pobl.”

Ychwanegodd y bydd hefyd angen edrych ar sut byddai pasbort brechu yn cael ei blismona.  

“Ma' rhain yn gwestiynau rili cymhleth ag yn anodd iawn yn foesol hefyd dwi'n meddwl.”

Trydedd don yn “anochel”

“Dwi'n meddwl bod hi'n anochel ein bod ni'n mynd i weld trydydd ton,” meddai Eluned Morgan.

“Y cwestiwn yw pa mor fawr yw'r don ag ​os ma'r don yna yn arwain at fwy o bobl yn mynd i'n ysbytai ni.

“Ma' rhaid ni ddysgu sut i fyw gyda Covid, ond wrth gwrs y ffordd orau i ni fyw gyda hi yw i sicrhau fod cymaint o bobl a phosibl yn cael y vaccine.”

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog roi gwybod ddydd Llun pryd gall pob oedolyn yng Nghymru ddisgwyl cael cynnig y dos cyntaf a'r ail ddos o'r brechlyn.

Mae rheoleiddwyr yn y DU wedi cymeradwyo'r defnydd o'r brechlyn Pfizer-BioNTech ar gyfer plant 12-15 oed, ac mae disgwyl i bwyllgor brechu'r DU benderfynu a ddylai plant gael y brechlyn.

Os caiff ei gymeradwyo, dywedodd Ms Morgan ei bod yn debygol y byddai Llywodraeth Cymru yn brechu plant hŷn.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd nad oedd pobl ifanc 16-18 oed wedi cael eu brechu yng Nghymru hyd yma oherwydd problemau gyda chyflenwad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.