Port Talbot: Llywodraeth Cymru yn beirniadu Ysgrifennydd Busnes y DU am wrthod cyfarfod
Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru wedi beirniadu Ysgrifenydd Busnes a Masnach y DU am wrthod cyfarfod er mwyn trafod dyfodol un o safleoedd gwaith dur mwyaf Prydain.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gytundeb gwerth £500 miliwn ddydd Gwener mewn ymdrech i ddatgarboneiddio safleoedd gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Ond dywedodd yr adran fusnes mai dim ond 5,000 o'r 8,000 o swyddi ar draws y DU oedden nhw'n gobeithio eu hachub.
Dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi ysgrifennu at Kemi Badenoch sawl gwaith eleni, ond yn ei hateb diweddaraf, gwrthododd gyfarfod ag ef.
Dywedodd Mr Gething wrth aelodau'r Senedd ddydd Mawrth fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei gwahardd rhag bod yn rhan o drafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a Tata dros ddyfodol safleoedd gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
'Amharchus'
Mewn datganiad, dywedodd Mr Gething fod Llywodraeth y DU wedi bod yn araf i sicrhau'r trawsnewidiad o'r diwydiant dur i net sero.
"Rydym ni wedi bod yn erfyn ar Lywodraeth y DU ers tro i ddarparu y cyd-fuddsoddiad sylweddol sydd ei angen i gefnogi dulliau mwy gwyrdd wrth gynhyrchu dur," meddai.
Clywodd y Senedd feirniadaeth gan Mr Gething am y ffaith fod Llywodraeth y DU wedi rhannu'r newyddion "drwy sesiynau briffio i'r cyfryngau" a bod hynny yn "amharchus" i'r gweithlu.
"Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach gynnig fy nghyfarfod ym mis Mai, ychydig fisoedd wedi iddi gael ei phenodi, ond mae hi ers hynny wedi gwrthod cytuno ar ddyddiad cyfleus i drafod y materion yn y misoedd wedyn," meddai.
Fe wnaeth yr AS Ceidwadol Tom Giffard awgrymu fod gwrthwynebiad Mr Gething i gytundeb Tata a Llywodraeth y DU "yn peryglu niweidio sefydlogrwydd dyfodol y cytundeb.
"Dwi'n croesawu y buddsoddiad anferthol o £500m gan Lywodraeth y DU ym Mhort Talbot, sy'n diogelu 5,000 o swyddi uniongyrchol ac 17,500 o swyddi anuniongyrchol, a dyfodol y diwydiant dur yma yn Ne Cymru," meddai.