Newyddion S4C

Elon Musk yn awgrymu y gallai fod tâl i ddefnyddio'r platfform 'X'

19/09/2023
Elon Musk

Mae Elon Musk, perchennog y platfform cyfryngau cymdeithasol 'X', wedi awgrymu y gallai orfodi holl ddefnyddwyr y platfform i dalu i'w ddefnyddio.

Mewn sgwrs gyda Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, dywedodd y biliwnydd mai system dalu oedd yr unig ffordd i gael gwared ar gyfrifon ffug, neu 'bots', oddi ar yr hen blatfform Twitter.

“Rydyn ni’n symud i gael taliad misol bach am ddefnyddio’r system,” meddai pennaeth Tesla a SpaceX.

Nid oes unrhyw gynlluniau pendant wedi’i gyhoeddi eto.

Mae Mr Musk wedi dweud ers tro mai’r ateb i osgoi cyfrifon ffug ar y platfform yw codi tâl i ddilysu’r cyfrif.

Ers cymryd drosodd Twitter y llynedd mae wedi ceisio ysgogi defnyddwyr i dalu am wasanaeth uwch, sydd bellach yn cael ei galw yn 'X Premium'.

Mae hyn wedi'i wneud trwy roi mwy o nodweddion i danysgrifwyr cyflogedig, fel y gallu i rannu negeseuon hirach a mwy o welededd ar y platfform.

Ar hyn o bryd mae X Premium yn costio $8 (£6.50) y mis yn yr UDA.

Mae'r pris yn amrywio yn dibynnu ar ba wlad y mae tanysgrifiwr ynddi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.