Rhybudd melyn am law mewn grym i rannau helaeth o Gymru
19/09/2023
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar gyfer y rhan helaeth o Gymru.
Mae'r rhybudd wedi bod mewn grym ers 06:00 ddydd Mawrth a bydd yn parhau tan 18:00 ddydd Mercher.
Yn ystod y cyfnod 36 awr, mae disgwyl rhwng 50mm a 100mm o law i ddisgyn, gyda hyd at 150-200mm mewn rhai ardaloedd.
Mae’n bosib y gallai rhai cartrefi a busnesau brofi llifogydd, gyda gwasanaethau bws a thrên yn cael eu heffeithio yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Gallai rhai cyflenwadau pŵer hefyd gael eu heffeithio.
Bydd y rhybudd mewn grym yn:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Sir Conwy
- Sir Ddinbych
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg