Rhybudd melyn am law trwm ar gyfer y rhan helaeth o Gymru
Mae rhybudd melyn am law trwm wedi ei gyhoeddi ar draws rhan helaeth o Gymru.
Mae’r rhybudd ddydd Mawrth a Mercher yn ymestyn o arfordir gogledd Cymru at Gaerdydd tua’r de.
Mae disgwyl llifogydd a bydd y glaw hefyd yn effeithio ar drafnidiaeth meddai'r Swyddfa Dywydd.
Bydd yn dechrau am 6.00 ddydd Mawrth ac yn dod i ben am 18.00 ddydd Mercher.
Bydd y rhybudd mewn grym yn:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Sir Conwy
- Sir Ddinbych
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
'36 awr'
“Bydd glaw a fydd yn drwm ar brydiau yn effeithio ar sawl rhan o’r DU ddydd Mawrth a Mercher,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
“Bydd y glaw trymaf yn syrthio dros dir yng ngogledd orllewin Lloegr, gogledd orllewin Cymru a de Cymru.
“Dros gyfnod o 36 awr yn yr ardaloedd rheini mae 50-100mm o law yn debygol o syrthio, a chymaint â 150-200mm mewn rhai ardaloedd."