
Dathliadau i nodi 50 mlynedd o fodolaeth Ysgol Penweddig yn Aberystwyth
Mae cymuned Ysgol Penweddig yn Aberystwyth yn dathlu 50 mlynedd ers iddi agor eu drysau ym mis Medi 1973.
Dyma oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Ngheredigion a’r chweched ysgol uwchradd Gymraeg i gael ei sefydlu’n swyddogol.
Pan gafodd yr ysgol ei hagor 50 mlynedd yn ôl, roedd 168 o blant ar y gofrestr.
Trwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf, fe fydd sawl digwyddiad yn nodi’r hanner-canmlwyddiant.
Fe fydd y dathliadau yn dechrau ddydd Sadwrn 16 Medi gyda phrynhawn agroed yn yr ysgol.
Gyda’r nos, fe fydd Noson Cabaret arbennig yn cael ei gynnal yn Neuadd Fawr Aberystwyth gyda pherfformiadau o sawl artist.
Carreg filltir
Dywedodd Lowri Roberts, cynhyrchydd y Noson Cabaret: “Dyma garreg ffilltir bwysig iawn i’r ardal.
“Roedd yn frwydr pan sefydlwyd hi ac er bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn mynd o nerth i nerth mae hi dal yn sialens, mae dal hi yn heriol i gynnal y brwdfrydedd yna.
“Rydym ni’n gobitho ar ôl y digwyddiad yma, bod e mynd i ysbrydoli bobl i werthfawrogi addysg Gymraeg,” meddai.
Mae Lowri a’i chyd-gynhyrchydd Rhys Taylor, cyfarwyddwr cerdd y noson wedi casglu cyn-ddisgyblion at ei gilydd i berfformio yno.
“Rydym ni wedi trio cael cynrhcyiolaeth cyn-ddisgyblion o’r 50 mlynedd diwethaf,” meddai Lowri.
“Mae artistiaid amrywiol yn perfformio ac ma Rhys Taylor, wedi creu band o gyn-ddisgyblion arbennig ar gyfer y noson,” meddai.

Fe fydd amryw o artisitaid yn perfformio yn y Noson Cabaret, gan gynnwys y band Mellt, Georgia Ruth a Sam Ebenezer.
Nia Elin a Trystan ap Owen fydd yn arwain y noson ac fe fydd cyfres o gyfarchion gan gyn-ddisgyblion eraill o Penweddig.
Sialens
Yn ôl Lowri, mae trefnu’r noson hon wedi bod yn “sialens”.
“Mae pob un person sy’n cymryd rhan yn gyn-ddisgyblion. Y sialens fwyaf odd penderfynu pwy o ni mynd i ddewis.
“Mae llwyth a llwyth o bobl sydd wedi neud yn dda. A maen nhw i gyd wedi dod allan o Ysgol Penweddig.”

Dros y flwyddyn nesaf, bydd sawl digwyddiad yn cymryd lle i ddathlu’r hanner canmlwyddiant.
Gobaith Lowri a’r pwyllgor yw cael y disgybliion presennol i fod yn rhan o’r trefnu.
“Rydym ni eisiau ysbrydoli’r disgyblion sydd yn Ysgol Penweddig nawr i weld sut ma’ nhw eisiau dathlu ei hunain.
“Ni wedi neud y gwaith edrych yn ôl ar y cynddisgyblion, ond ni eisiau rhannu dathlaidae gyda’r disgbylion nawr achos yn eu dwylo nhw ma’r dyfodol.