Newyddion S4C

Y Cenhedloedd Unedig yn galw am gymorth brys i Libya

Libya

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi galw am gymorth meddygol brys i ddinas Derna, Libya. 

Mae timau achub rhyngwladol wedi cyrraedd yr ardal, gyda 6,000 o farwolaethau wedi eu cadarnhau hyd yma.

Ond yn ôl y sefydliad dyngarol Cilgant Coch mae’r nifer hwnnw wedi cyrraedd 11,300.

Mae cymorth wedi cyrraedd gan dimau achub o'r Aifft, Twrci, Yr Eidal, Sbaen a Thunisia.

Ond mae’r ymdrechion i achub pobl wedi eu cymhlethu am fod dwy lywodraeth wahanol yn hawlio rheolaeth o'r wlad.

Mae tua 30,000 o bobl yn ddigartref, meddai’r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Ymfudo, gydag asiantaeth ddyngarol y Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio am berygl afiechyd o ddŵr.

Beth ddigwyddodd?

Daeth storm â mwy na 400mm o law i rannau o arfordir gogledd-ddwyrain Libya o fewn cyfnod o 24 awr.

Mae’r rhanbarth fel arfer yn gweld tua 1.5mm drwy gydol mis Medi.

Cafodd rhan sylweddol o'r ddinas ei dinistrio wedi i'r llifogydd lifo i lawr gwely afon Wadi Dirna a oedd yn sych ar y pryd.

Yn dilyn glaw trwm, fe gafodd dau argae uwchben porthladd Derna eu dinistrio, gan anfon dilyw i gyfeiriad y ddinas.

Yn ôl Sefydliad Meteorolegol y Byd y Cenhedloedd Unedig, fe allai’r rhan fwyaf o’r marwolaethau fod wedi’u hosgoi pe bai rhybuddion wedi cael eu cyhoeddi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.