Newyddion S4C

Meddygon Abertawe yn ‘ddig’ am lythyr yn y Times am aflonyddu rhywiol

14/09/2023
NS4C

Mae 55 o feddygon o Fwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi mynegi eu “dicter” am lythyr a gyhoeddwyd gan feddyg yn y Times.

Roedd y meddyg wedi ymddeol Peter Hilton, o Hwlffordd, wedi gweithio i’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg blaenorol.

Mewn gohebiaeth â’r Times ddydd Mercher dywedodd fod angen i ddoctoriaid ifanc fod yn “fwy gwydn”.

“Mae'n amlwg na wnaeth y ‘genhedlaeth pluen eira’ hon o feddygon ifanc sy’n fenywaidd yn bennaf a gafodd eu dewis ar sail rhagoriaeth academaidd eu gwaith cartref,” meddai.

“Mae hyfforddiant ac ymarfer meddygol yn greulon ac yn gofyn llawer, gydag oriau hir, ac mae bwlio yn digwydd.

“Mae sylwadau a gweithredoedd rhywiol amhriodol yn digwydd. Mae'n straen.

“Os ydyn nhw am fod yn llwyddiannus mae angen iddyn nhw fod yn fwy gwydn.

“Efallai nad pedwar A* mewn arholiad Safon Uwch yw'r ateb i holl broblemau'r byd.”

‘Bywiog’

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bod rhai o’r 55 o feddygon sydd wedi arwyddo'r llythyr wedi gweithio â Peter Hilton.

Roedden nhw wedi “dod at ei gilydd yn rhagweithiol i wrthod ei farn yn y termau cryfaf posibl” a “nodi'n glir nad oes lle i farn o'r fath yn y proffesiwn yn yr 21ain ganrif”.

Mae eu llythyr a gyhoeddwyd ddydd Iau yn dweud:  “syml, mae Dr Hilton yn anghywir yn ei sylwadau am 'feddygon ifanc, benywaidd yn bennaf'.

“Nid yw myfyrwyr meddygol yn cael eu dewis ar sail 4A* ar lefel Safon Uwch yn unig, ond ystod o fesurau academaidd ac anacademaidd - nid yw’r un ohonynt yn cynnwys neu’n awgrymu derbyniad camsynied neu aflonyddu rhywiol.

“Mae ysgolion meddygol hefyd yn cynnig hyfforddiant ar wirioneddau ymarfer meddygol a gwaith yn y GIG, felly mae graddedigion yn sicr wedi 'gwneud eu gwaith cartref' erbyn iddynt ddechrau yn y proffesiwn.

“Ymhell o fod yn bluen eira, mae ein meddygon ifanc yn fywiog, â diddordeb, yn ddeallus ac yn ymroddedig i'w gyrfaoedd.

“Y lleiafswm moel yw disgwyl y byddant yn cael eu trin â pharch gan eu cydweithwyr, ac rydym yn eu cefnogi'n gryf yn y galw hwn.

“Mae diystyriaeth Dr Hilton o fwlio, rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol fel anghyfleustra yn unig yn y gweithle yn anghyson â'r proffesiwn yn yr 21ain ganrif.

“Rydym yn gwrthod yr awgrym bod angen i feddygon dan hyfforddiant fod yn fwy gwydn neu y dylid, yn syml, oddef yr ymddygiadau hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.