Un wedi marw ac wyth yn yr ysbyty ar ôl bwyta mewn bwyty yn Bordeaux
Mae un person wedi marw ac wyth arall wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu heintio â chyflwr Botwliaeth (Botulism) yn Bordeaux.
Mae 10 achos o Fotwliaeth wedi ei gysylltu â bwyta mewn bwyty yn Bordeaux rhwng 4 a 10 Medi.
Mae'r achosion i gyd yn gysylltiedig â bwyta sardinau cartref a gafodd eu gwneud gan y perchennog ym mwyty'r 'Tchin Tchin Wine Bar' yn y ddinas.
Mae Bordeaux wedi bod yn cynnal rhai o gemau Cwpan Rygbi'r Byd, sy'n cael ei chynnal yn Ffrainc ar hyn o bryd.
Roedd miloedd o gefnogwyr Cymru ac Iwerddon yn y ddinas ar gyfer y gemau yn erbyn Ffiji a Romania y penwythnos diwethaf.
Mae Botwliaeth yn gyflwr prin ond a all beryglu bywyd, sy'n cael ei achosi gan wenwynau sydd wedi eu cynhyrchu gan facteria Clostridium botulinum.
Mae'r mwyafrif o bobl yn holliach gyda thriniaeth, ond gall y paralysis ledaenu i'r cyhyrau sy'n rheoli anadlu os nad yw'n cael ei drin yn gyflym, gyda symptomau yn cynnwys poen abdomenol, teimlo'n sâl, trafferthion llyncu a thrafferthion anadlu.
Fel arfer, dydy tymheredd uchel ddim yn gysylltiedig â'r afiechyd.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth Ddiogelwch Iechyd y DU (UKHSA): "Mae awdurdodau iechyd cyhoeddus yn Ffrainc wedi adnabod nifer o achosion o Fotwliaeth yn gysylltiedig â bwyty yn Bordeaux.
"Mae'r UKHSA wedi cael gwybod am nifer bach o Brydeinwyr a wnaeth fwyta yn y Tchin Tchin Wine Bar yn Bordeaux rhwng 4 a 10 Medi. Mae unigolion a gafodd eu hadnabod gan awdurdodau Ffrainc a bellach wedi dychwelyd i'r DU yn derbyn gofal meddygol.
"Ond, fe all fod yna fwy o bobl bellach yn y DU a fwytodd yn y bwyty yn Bordeaux sydd heb gael eu hadnabod gan awdurdodau Ffrainc."
Mae'r UKHSA yn annog unrhyw un a fwytodd yn y bwyty rhwng 4 a 10 Medi i gysylltu gyda'r adran achosion brys lleol ar unwaith a gadael iddyn nhw wybod eu bod wedi ymweld â bwyty sydd gydag achosion o Fotwliaeth.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Ffrainc y dylai unrhyw un a wnaeth fwyta yn y bwyty rhwng y dyddiadau weld meddyg ar unwaith "rhag ofn bod symptomau yn ymddangos ar ôl ymweld â'r bwyty."