Gemma Grainger yn enwi carfan Cymru i herio Gwlad yr Iâ a Denmarc
Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan Cymru i wynebu Gwlad yr Iâ a Denmarc yng ngemau agoriadol pencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA.
Eleni yw'r tro gyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ac mae Cymru wedi eu gosod yng Nghynghrair A gyda'r Almaen, Denmarc a Gwlad yr Iâ.
Bydd tîm Gemma Grainger yn chwarae oddi cartref yn erbyn Gwlad yr Iâ ar 22 Medi cyn herio Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 26 Medi.
Fe all Cymru sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd pencampwriaeth yr Euros yn 2025 trwy ennill y gynghrair.
Bydd Rachel Rowe yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli’r gêm ddiwethaf yn erbyn yr UDA yn San Jose, ond ni fydd yr ymosodwr Hannah Cain ar gael oherwydd anaf.
Mary McAteer a Lauren Thomas yw’r ddwy chwaraewraig ddi-gap yn y garfan.
Mae enwau cyfarwydd y garfan fel Jes Fishlock, Sophie Ingle ac Angharad James wedi eu cynnwys ar gyfer y gemau sydd i ddod.
Dyma'r garfan yn llawn:
Laura O’Sullivan, Olivia Clark, Safia Middleton-Patel, Rhiannon Roberts, Charlie Estcourt, Hayley Ladd, Josie Green, Gemma Evans, Lily Woodham, Esther Morgan, Ella Powell, Sophie Ingle), Angharad James, Anna Filbey, Jess Fishlock, Ceri Holland, Ffion Morgan, Megan Wynne, Rachel Rowe, Carrie Jones, Kayleigh Green, Elise Hughes, Mary McAteer, Chloe Williams Alice Griffiths, Lauren Thomas.