Newyddion S4C

Problemau concrid diffygiol Ysbyty Llwynhelyg ‘ddim yn syndod’ i’r gweinidog iechyd

13/09/2023
Eluned Morgan

Mae’r gweinidog iechyd wedi dweud nad oedd problemau concrid diffygiol ysbyty Llwynhelyg yn “syndod” i Lywodraeth Cymru.

Roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi datgan “digwyddiad mawr” yno ar 15 Awst o ganlyniad i ddod o hyd i blanciau RAAC oedd wedi difrodi a gorfod cau rhai o wardiau'r ysbyty.

Dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd ddydd Mercher bod y concrid RAAC diffygiol “yn syndod i’r cyhoedd” ond “ddim yn rhywbeth a oedd yn syndod i ni ym mis Awst”.

Roedd hi’n ymateb i sylwadau gan yr Aelod o Senedd Cymru dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies.

Yn ystod dadl yn y Senedd, dywedodd ei fod yn pryderu fod Llywodraeth Cymru “wedi gwybod am hyn ers 2019 ond mai ychydig iawn o weithredu oedd wedi bod cyn 2023”.

Ond dywedodd Eluned Morgan eu bod nhw wedi bod yn ymchwilio i weld a oedd problem yno ers rhai misoedd.

“Rydyn ni wedi bod yn edrych ar hyn ers i ni gael rhybudd ym mis Mai 2019 ynglŷn â risgiau posib gan RAAC,” meddai.

“Bryd hynny fe gafodd ysbytai Cymru'r dasg o ymchwilio i weld a oedd RAAC ar draws eu hystâd. Yn 2022 fe apwyntiodd Llywodraeth Cymru beiriannydd arbenigol i adolygu’r adroddiadau rheini.

“Mae’r adroddiadau rheini yn dal i gael eu casglu ond rydan ni wedi adnabod lle mae’r problemau mwyaf ers mis Chwefror.”

Dywedodd Eluned Morgan bod nhw’n gobeithio gallu ail-agor y wardiau oedd wedi cau yn Ysbyty Llwynhelyg erbyn diwedd y flwyddyn ond bod rhaid “gweld beth ddaw i’r golwg” wrth i’r ymchwiliadau barhau.

“Rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydyn ni’n rhoi pobol yn ôl i mewn os oes unrhyw berygl bod y wardiau ddim yn saff,” meddai.

‘Anhysbys’

Daw sylwadau Eluned Morgan wedi i adroddiad gan y bwrdd iechyd awgrymu nad oedden nhw eto yn gwybod cyflwr nifer o’r planciau concrid yn ysbyty Llwynhelyg.

Roedd adroddiad i gyfarfod o Bwyllgor Datblygu Strategol Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar 31 Awst yn dweud mai cau holl wardiau'r ysbyty fyddai'r "unig ffordd o liniaru'r risg yn llawn".

Dywed yr adroddiad eu bod eisoes wedi darganfod difrod i “amryw” o’r planciau concrit diffygiol sydd ar y safle.

Roedd dros 900 o blanciau yn “risg” yn ward naw a ward 12 yr ysbyty.

“Y sefyllfa ar hyn o bryd ydy bod y bwrdd yn disgwyl darganfod planciau P1 [mewn cyflwr critigol] yn ardaloedd y wardiau a’r llawr gwaelod sy’n dal i ddisgwyl cael eu harolygu,” meddai cofnodion y pwyllgor.

"Yr hyn sy'n anhysbys wrth gwrs, yw cyflwr planciau yn yr ardaloedd hynny sydd eto i'w harolygu ac a oes planciau o gyflwr tebyg, neu waeth, yn bodoli yn yr ardaloedd hyn."

Roedd yr adroddiad yn amcangyfrif cost o £12.2m erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2024/25 am raglen waith oedd yn codi o effaith RAAC.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.