Newyddion S4C

RAAC: "Cyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU" i ariannu unrhyw waith adfer ar adeiladau cyhoeddus

12/09/2023
Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud mai cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig fyddai talu am unrhyw waith i adfer adeiladau cyhoeddus yng Nghymru ble mae’r concrit RAAC yn bresennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad mewn adeiladau cyhoeddus, gan gynnwys holl ysgolion Cymru, i geisio darganfod a oes RAAC yn bresennol yn yr adeiladau.

Cafodd RAAC ei ddarganfod wythnos diwethaf mewn dwy ysgol ar Ynys Môn, Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi, gan orfodi i rannau o’r ysgolion gau gyda disgyblion yn derbyn gwersi ar-lein.

Hyd yma, nid oes unrhyw adeiladau pellach sydd â RAAC wedi eu nodi yn yr asesiad, gyda’r Llywodraeth yn disgwyl canlyniadau mwy cyflawn erbyn 15 Medi.

Daeth cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS, ddydd Mawrth fod Ysgol David Hughes bellach wedi llwyddo i ail-agor i bob disgybl, tra bod dysgu mewn person wedi ail-ddechrau yng Nghaergybi i bedair blwyddyn ysgol, ar hyn o bryd.

Dywedodd Mr Miles: “Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb sydd yn gweithio yn y byd addysg ac awdurdodau lleol, sydd wedi gweithio’n ddiflino yn sgil y datblygiadau yma. Dw i’n gwybod hefyd fod rhieni, gofalwyr a staff yn pryderu.

“Hoffwn ni pwysleisio i chi mai ein blaenoriaeth yw sicrhau diogelwch dysgwr a staff bob tro a chadw plant a phobl ifanc mewn addysg.”

‘Ariannu’

Wrth ymateb i gwestiwn gan Ken Skates AS a ddylai Llywodraeth y DU ariannu unrhyw waith sydd ei angen o ganlyniad i ganfod RAAC mewn adeiladau cyhoeddus, dywedodd Mr Drakeford: 

“Fe ddylem fod yn hyderus o hynny gan fod y fframwaith cyllidol a’r rheolau sydd yn ffurfio’r berthynas rhwng llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU ar y materion yma yn glir, fod rhwymedigaethau sydd yn ganlyniad penderfyniadau gafodd eu gwneud cyn datganoli yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU hyd heddiw.

“Rydw i wedi cael y drafodaeth sawl gwaith gyda gweinidogion y DU mewn perthynas â diogelwch mewn chwareli glo, ble mae’r rhwymedigaethau rydym yn ei weld heddiw yn ganlyniad penderfyniadau a gafodd eu gwneud ymhell cyn i ddatganoli gychwyn.

“Credaf yn yr achos hwn y dylai'r un egwyddor fod yn berthnasol yn y ffordd y nododd Ken Skates.

“Diolch byth hyd yn hyn—ac mae'r gwaith yn cael ei gynnal, ac rydym yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn ofalus ac yn gynhwysfawr - mae effaith RAAC mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghymru ar ben isaf y sbectrwm.

“Ond yn yr hir dymor, nid yw'r adeiladau hyn yn mynd i wella. Dyna'r ydym yn ei wybod am RAAC, ei fod yn gyflwr cynyddol, a thra ein bod yn ei adolygu'n ofalus, bydd angen rhoi sylw i fwy o adeiladau yn y dyfodol.

“A dyna pam mai sefydlu’r egwyddor honno mai’r corff sy’n talu dylai fod y corff a wnaeth y penderfyniadau hynny yn y lle cyntaf yw’r un y byddwn yn mynd ar ei drywydd mewn trafodaethau â’r Trysorlys.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â’r Trysorlys am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.