Pedwerydd parc cenedlaethol i Gymru?
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi cael comisiwn gan Lywodraeth Cymru i werthuso'r achos dros greu pedwerydd parc cenedlaethol yng Nghymru, a hynny yn y gogledd ddwyrain.
Dyma fyddai'r datblygiad parc cenedlaethol cyntaf i gael ei ystyried yng Nghymru ers bron i 70 mlynedd, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cafodd Parciau Cenedlaethol Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brychineiog eu sefydlu yn yr 1950au.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein ac wyneb yn wyneb ym misoedd Hydref a Thachwedd i drafod syniadau ar gyfer y gogledd ddwyrain.
Yn ôl datganiad gan y sefydliad amgylcheddol, bydd y cynllun yn seiliedig ar "Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy."
Bydd yr achos dros barc cenedlaethol newydd yn cael ei ystyried o fewn tymor presennol y Senedd (2021-2026).
Meddai Ash Pearce, Rheolwr y Prosiect: "Bydd ymgynghoriad llawn ar y map ffiniau arfaethedig yn digwydd yn 2024 pan fyddwn wedi cwblhau ein hasesiadau. Ar hyn o bryd mae'r map yn diffinio'r ardal lle byddwn yn canolbwyntio ein gwaith asesu, mae gennym ddiddordeb mewn gwrando ar safbwyntiau'r holl randdeiliaid a'u deall.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect i ddod i un o'n digwyddiadau ar-lein neu i ddigwyddiad galw heibio wyneb yn wyneb i gael gwybod mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud a rhannu eich adborth â ni drwy lenwi holiadur."
Bydd y digwyddiadau hynny yn cael eu cynnal rhwng 9 Hydref a 27 Tachwedd 2023.