Daniel Khalife wedi dianc o'r carchar gan ddefnyddio 'deunydd cynfasau gwely'
11/09/2023
Mae llys wedi clywed bod y cyn-filwr Daniel Khalife wedi dianc o’r carchar trwy glymu ei hun i waelod fan fwyd gan ddefnyddio deunydd “a allai fod wedi dod o gynfasau gwely.”
Cafodd y dyn 21 oed ei gadw yn y ddalfa yn Llys Ynadon Westminster ddydd Llun ar gyhuddiad o ddianc o garchar Wandsworth ddydd Mercher.
Fe wnaeth yr heddlu ei arestio toc cyn 11:00 ddydd Sadwrn ar ôl cael ei dynnu oddi ar feic gan swyddog gwrthderfysgaeth mewn dillad plaen.
Roedd Khalife wedi bod yn aros ei brawf yng ngharchar Wandsworth ers mis Ionawr pan gafodd ei gyhuddo o droseddau terfysg.
Bydd yn ymddangos nesaf yn llys yr Old Bailey ar 29 Medi.