Cŵn tarw 'American XL': Suella Braverman yn ceisio cyngor brys ar waharddiad posibl
Mae Ysgrifennydd Cartref y DU, Suella Braverman yn dweud ei bod yn ceisio “cyngor brys” ar wahardd cŵn tarw “peryglus” American XL.
Daw hyn ar ôl i gi ymosod ar ferch 11 oed yn Birmingham ddydd Sadwrn, gyda lluniau wedi’u postio ar-lein o'r digwyddiad erchyll.
Dywedodd Ms Braverman fod yr ymosodiad yn "warthus" a bod y brîd yn berygl arbennig i blant.
Mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn ymchwilio ar ôl i’r ferch gael ei brathu tra bod y ci’n cael ei gerdded yn Bordesley Green.
Cafodd dau ddyn wnaeth ymyrryd hefyd eu brathu a’u gadael gydag anafiadau.
Mae swyddogion wedi siarad â pherchennog y ci.
Ar ôl i luniau ffôn o'r ymosodiad gael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol, ysgrifennodd Ms Braverman ar X (Twiter): "Mae hyn yn warthus. Mae'r American Bully XL yn berygl amlwg a marwol i'n cymunedau, yn enwedig i blant.
"Allwn ni ddim mynd ymlaen fel hyn. Rwyf wedi comisiynu cyngor brys ar eu gwahardd."
Cŵn tarw American XL
Ychydig dros wythnos yn ôl, fe wnaeth dau gi, American XL Bulldog, ymosod ar dda byw ar dir amaethyddol preifat yn Rhosllannerchrugog, wedi iddyn nhw ddianc o’u cartref ar 6 Mawrth eleni.
Fe laddwyd 22 o ddefaid beichiog yn yr ymosodiad, gan anafu 48 o ddefaid ymhellach.
Fe gafodd David Hughes o Wrecsam ei ganfod yn euog o fod yn berchennog ar gi peryglus nad oedd yn gallu ei reoli, a bod yn berchennog ar gi a wnaeth achosi pryder i dda byw.
Yn 2021, cafodd Jack Lis, 10 oed, ei ladd yng Nghaerffili, gan gi a gafodd ei adnabod fel American Bully neu American XL Bulldog.
Mae mam Jack, Emma Whitfield wedi cwestiynu pam nad yw Llywodraeth y DU wedi gweithredu ynghynt i wahardd y math hwn o gi.
Ar wefan X, dywedodd: “Lle roeddech chi pan gafodd fy mab ei ladd ? Lle roeddech chi pan roedd bobl ddiniwed eraill yn cael eu lladd ?
“Lle roeddech chi pan roeddwn i yn y Senedd yn gofyn am newid ? Nunlle."
Cyfrifoldeb Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw ychwanegu cŵn at y rhestr waharddedig.
Mae'n anghyfreithlon bod yn berchen, bridio neu werthu cŵn ar restr waharddedig Defra.
Nid yw'r American XL Bulldog yn cael ei gydnabod fel brîd penodol gan y UK Kennel Club, sefydliad mwyaf y DU sy'n ymwneud ag iechyd, lles a hyfforddiant cŵn.
Ond yn ôl datganiad fis diwethaf gan grŵp o elusennau a milfeddygon, gan gynnwys y RSPCA, y Gymdeithas Milfeddygaeth Brydeinig a'r Dogs Trust, mae angen i'r Llywodraeth i beidio â chyhoeddi deddfwriaeth sydd yn 'gwahaniaethu' bridiau penodol o gŵn, gan gynnwys yr American XL Bulldog.
Yn siarad ar ran y Grŵp Rheolaeth Cŵn, dywedodd Dr Samantha Gaines o'r RSPCA fod deddfwriaeth o'r fath, sydd wedi bod yn y gyfraith ers 32 mlynedd bellach, wedi methu.
“Rydym wedi ein siomi'n aruthrol gan achosion diweddar o gŵn yn brathu, digwyddiadau hynod o drist sydd yn pwysleisio'r angen am weithredu cyflym a newid yn y ffordd rydyn ni'n ymdrin â'r broblem.
“Ond nid yw ychwanegu un brîd arall o gi i'r ffordd ddiffygiol yma o feddwl, sef gwahardd mathau penodol o gi ar sail eu hedrychiad, yn mynd i ddatrys y broblem.
“Bydd gweithred o'r fath yn gorfodi elusennau i roi mwy o gŵn diniwed i gysgu, gan roi haen arall o ddiogelwch ffug i'r cyhoedd yn y polisi yma sydd heb weithio ers 32 mlynedd - a fydd ddim yn gweithio nawr yn fwyaf sydyn."