Rhybudd melyn am stormydd ar draws rhannau o Gymru
Mae rhybudd melyn am stormydd a chawodydd trymion mewn grym ar draws rhannau o Gymru ddydd Sadwrn.
Mae'r rhubudd mewn grym o 14:00 tan 21:00.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod llifogydd hefyd yn bosib mewn mannau yn sgil cyfnodau o hyd at 50mm o law mewn dwy awr.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn annog unigolion i fod yn wyliadwrus wrth deithio, ac fe all y stormydd achosi oedi i drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae posibilrwydd y gallai rhai ffyrdd gael eu cau hefyd oherwydd y stormydd.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
• Ceredigion
• Conwy
• Sir Ddinbych
• Sir y Fflint
• Gwynedd
• Powys
• Wrecsam
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd rhwng 14:00 a 23:59 ddydd Sul.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
• Conwy
• Sir Ddinbych
• Sir y Fflint
• Gwynedd
• Ynys Môn
• Wrecsam
Tywydd braf
Daw'r rhybudd wrth i'r Swyddfa Dywydd ddisgwyl diwrnod poethaf y flwyddyn ar draws y DU ddydd Sadwrn.
Roedd disgwyl i'r tymheredd daro 33C yn ne Lloegr, yn uwch na'r 32.6C a gofnodwyd yn Surrey ddydd Iau.
Dywedodd prif feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Paul Gundersen: “Er y bydd y tymeredd uchel a'r awyr heulog yn parhau mewn sawl rhan o'r DU ddydd Sadwrn, mae yna hefyd bosibilrwydd y bydd rhai stormydd mellt a tharanau.
"Mae hyn wedi arwain at gyhoeddi Rhybudd Melyn ar gyfer rhannau o ganolbarth Lloegr a Chymru."