Newyddion S4C

Carcharu dyn am ddwyn gemwaith gwerth £50,000 o siop yng Nghaerdydd

08/09/2023
Remiah Fyffe-Gaylef

Mae dyn 29 oed wedi cael ei garcharu am bum mlynedd wedi iddo ddwyn gemwaith gwerth £50,000 o siop yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth Remiah Fyffe-Gaylef o Lundain deithio i Gaerdydd ar 22 Ebrill gan ymweld â siop Pravins yng nghanolfan siopa Dewi Sant.

Gofynnodd i’r staff a fyddai’n bosib iddo edrych ar fodrwyon ddiemwnt, gan honni ei fod yn bwriadu dyweddïo.

Roedd staff wedi dangos tair modrwy i Mr Fyffe-Gaylef, cyn iddo gymryd pob un ohonynt a cheisio rhedeg allan o'r siop.

Ceisiodd swyddog diogelwch ei rwystro rhag gadael ond y dilyn sgarmes rhwng y ddau roedd Fyffe-Gaylef wedi dianc.

£53,000 oedd gwerth y modrwyon gafodd eu dwyn, ond cafodd un fodrwy gwerth £9,000 ei ollwng ganddo wrth i'r swyddog diogelwch rhedeg ar ei ôl trwy ganol y ddinas nes cyrraedd Stryd y Santes Fair.

Trwy ddilyn Fyffe-Gaylef, roedd modd i'r heddlu edrych ar luniau teledu cylch cyfyng er mwyn dod o hyd i'r llwybr a gymerodd.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Seren West, “Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cyflym iawn ac mae nifer o heddluoedd wedi gweithio ar y cyd.

“Roedd Fyffe-Gayle hefyd wedi dwyn gemwaith yn nwyrain Llundain cyn ei ymweliad â Chaerdydd.

“Roedd wedi dwyn gwerth tua £85,000 o fodrwyau o dair siop.

"Roedd y troseddau blaenorol yn dangos ei fod wedi cynllunio'r lladrad hwn o flaen llaw."

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.