Cyhuddo prifathro o gam-drin plentyn yn rhywiol
Mae prifathro ysgol uwchradd wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiad o gam-drin plentyn yn rhywiol.
Fe gafodd Neil Foden, sy'n 66 oed ac yn dod o Hen Golwyn, ei gadw yn y ddalfa yn dilyn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener.
Mae’r prifathro wedi’i gyhuddo o droseddau gan gynnwys cam-drin safle o ymddiriedaeth, gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn, ymosodiad rhywiol ar blentyn a chyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn.
Ni wnaeth cyfreithiwr Mr Foden wneud cais am fechnïaeth ar ei ran.
Fe fydd Mr Foden yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Hydref.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth all fod o gymorth i'w hymchwiliad i gysylltu gyda'r llu gan ddefnyddio cyfeirnod A143631.