Rhybudd melyn am stormydd posib i rannau o Gymru ddydd Sadwrn
08/09/2023
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd a chawodydd trymion ar draws gogledd a gorllewin Cymru ddydd Sadwrn.
Mae rhybudd hefyd fod llifogydd yn bosib mewn rhai ardaloedd o’r wlad, o ganlyniad i gyfnodau o hyd at 50mm o law mewn dwy awr.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn annog unigolion i fod yn wyliadwrus wrth deithio, ac fe all y stormydd achosi oedi i drafnidiaeth gyhoeddus.
Fe all rhai ffyrdd hefyd gael eu cau.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
• Ceredigion
• Conwy
• Sir Ddinbych
• Sir y Fflint
• Gwynedd
• Powys
• Wrecsam