
Y band jazz Ezra Collective yn cipio Gwobr Mercury 2023
Ezra Collective sydd wedi dod i’r brig yng nghystadleuaeth Gwobr Mercury eleni gyda’i halbwm 'Where I’m Meant To Be'.
Dyma’r band jazz cyntaf i ennill y gystadleuaeth sydd yn cynnig gwobr o £25,000 ac yn dathlu albwm Brydeinig neu Wyddelig orau’r 12 mis diwethaf.
Roedd 12 albwm wedi cyrraedd y rhestr fer, ac ymhlith yr enwebiadau roedd Jessie Ware, J Hus, Arctic Monkeys, Fred Again a Rhoi.
First moments as Mercury Prize winners for @EzraCollective 🎉#MercuryPrize pic.twitter.com/Ih2mxka3WU
— Mercury Prize (@MercuryPrize) September 7, 2023
Wrth dderbyn y wobr mewn seremoni nos Iau, dywedodd y drymiwr Femi Koleoso fod y grŵp "yn cynrychioli rhywbeth arbennig iawn oherwydd ein bod wedi cyfarfod mewn clwb ieuenctid.
“Nid buddugoliaeth i Ezra Collective yn unig yw hwn, neu i jazz y DU, ond mae hon yn foment arbennig i bob un sefydliad ar draws y wlad sydd wedi rhoi ymdrech ac amser i bobl ifanc.”
Ymysg y 12 beirniad roedd y gyflwynwraig Sian Eleri.

Wrth siarad ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fore Iau dywedodd y gyflwynwraig nad oedd hi’n gallu coelio’r cynnig o fod yn feirniad.
“Ferdai'm coelio pan ges i yr e-mail. Ma’n un o’r pethau ‘na lle ti’n dychmygu ella cael neud ffasiwn beth fel teenager,” meddai.
“Dwi’n cofio sbïo drwy restrau blynyddoedd yn nôl a mynd ‘w s'gwn ni pwy sy’n mynd i ennill, a neud predictions bach fy hun, dwi wedi bod wrth fy modd efo cerddoriaeth ers erioed.
“Felly mae hwn gymaint o fraint, lle ma barn fi’n actually meddwl rhywbeth."