Pum cyn-heddwas o'r Met yn cyfaddef anfon negeseuon WhatsApp hiliol
Mae pump o gyn-heddweision Heddlu'r Met wedi cyfaddef anfon negeseuon hiliol ar WhatsApp, yn dilyn ymchwiliad gan BBC Newsnight.
Fe blediodd y cyn-swyddogion yn euog yn Llys Ynadon Westminster i anfon negeseuon hiliol hynod sarhaus, gan gynnwys rhai am Dduges Sussex.
Roedd dau o'r cyn-swyddogion o Gymru, a'r tri arall o ardaloedd yn Lloegr.
Roedd negeseuon gafodd eu hanfon yn cyfeirio at Dywysog a Thywysoges Cymru, y Frenhines Elizabeth II a'r Tywysog Philip rhwng 2020 a 2022.
Roedd y pump swyddog wedi gwasanaethu mewn gwahanol rannau o'r Met, ond roedd pob un wedi treulio cyfnod yn y Grŵp Amddiffyn Diplomyddol.
Roedd y swyddogion wedi ymddeol o'r heddlu rhwng 2001 a 2015, ac wedi eu cyhuddo o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.
Fe blediodd Peter Booth, 66, o Landeilo, Sir Gaerfyrddin, yn euog i bedwar cyhuddiad o anfon negeseuon hiliol hynod sarhaus. Roedd wedi ymddeol o'r Met ym mis Ebrill 2001, ac fe blediodd Trevor Lewton, 65, o Abertawe, yn euog i un cyhuddiad.
Roedd Lewton wedi ymddeol o'r heddlu ym mis Awst 2009.
Fe blediodd Robert Lewis, 62, o Surrey, Anthony Elsom, 67, o Bournemouth a Alan Hall, 65, o Suffolk, hefyd yn euog i'r un cyhuddiadau.
Roedd y negeseuon hefyd yn cyfeirio at y Prif Weinidog Rishi Sunak, y cyn Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel a’r cyn Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid.
Daeth y cyhuddiadau i'r amlwg ar ôl ymchwiliad gan BBC Newsnight ym mis Hydref a ysgogodd ymchwiliad gan Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol y Met.