Newyddion S4C

Ffrainc yn croesawu pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2023

08/09/2023
Cwpan Webb Ellis

Gyda gêm gyntaf Cwpan Rygbi’r Byd ar y gweill ddydd Gwener, dyma ganllaw cyflym Newyddion S4C i'r bencampwriaeth eleni. 

Mae pencampwriaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei chynnal pob pedair mlynedd, a Ffrainc yw gweisteiwr y bencampwriaeth rhyngwladol eleni. 

Felly, pryd fydd gêm gyntaf Cwpan Rygbi’r Byd 2023? 

Fe fydd y gêm gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Gwener a Ffrainc fydd yn chwarae yn erbyn Seland Newydd gyda'r gic gyntaf am 20.15. 

Ble fydd y gemau yn cael eu cynnal? 

Bydd y gemau yn cael eu cynnal mewn naw stadiwm ledled Ffrainc, sef Stade de Bordeaux, Stade Pierre-Mauroy, OL Stadium, Stade de Marseille, Stade de la Beaujoire, Stade de Nice, Stade de France, Stade Geoffroy-Guichard a Stadiwm de Toulouse.

Fe fydd y gêm agoriadol yn cael ei chynnal yn Stade de France, sef stadiwm genedlaethol Ffrainc, yn ardal Saint-Denis o'r brifddinas. 

Pryd fydd gêm gyntaf Cymru a phwy yw’r gwrthwynebwyr? 

Bydd gêm gyntaf Cymru yn cael ei chwarae yn erbyn Ffiji am 20.00 nos Sul, 10 Medi, a hynny yn Stade de Bordeaux, yn Bordeaux. 

Pwy sydd yn chwarae ar y noson i Gymru? 

Mae tîm Cymru yn erbyn Ffiji eisoes wedi cael ei gyhoeddi wedi i Warren Gatland enwi'r rhestr ddydd Iau.

Jac Morgan, sy’n chwarae yn safle’r blaenasgellwr, fydd yn arwain y tîm fel capten. 

Bydd sawl un yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf eleni, gan gynnwys Jac Morgan a Louis Rees Zammit yn y tri ôl.

Dyma rhestr yr 15 cyntaf fydd yn chwarae nos Sul: Liam Williams (15), Louis Rees Zammit (14), George North (13),Nick Tompkins (12), Josh Adams (11), Dan Biggar (10)Gareth Davies (9), Gareth Thomas (1), Ryan Elias (2), Tomas Francis (3), Will Rowlands (4), Adam Beard (5), Aaron Wainwright (6), Jac Morgan (7), Taulupe Faletau (8). 

Eilyddion: Elliot Dee (16), Corey Domachowski (17), Dillon Lewis (18), Dafydd Jenkins (19), Tommy Reffell (20), Tomos Williams (21), Sam Costelow (22), Rio Dyer (23).

Sawl gêm fydd yn cael ei chwarae yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd? 

Bydd 48 gêm yn cael eu chwarae yn y naw stadiwm, a hynny dros gyfnod o chwe wythnos.

Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Stade de France ar ddydd Sadwrn 28 Hydref. Mae disgwyl torf o hyd at 80,000 o bobl i wylio'r ddau dîm ar y diwrnod. 

Sawl tîm fydd yn cymryd rhan yng Nghwpan Rygbi’r Byd?

Bydd 20 o dîmau yn chwarae yng Nghwpan Rygbi’r Byd, a rheiny wedi'u rhannu'n i bedwar grŵp o bump.

Grŵp A: Ffrainc, Seland Newydd, Yr Eidal, Uruguay, Namibia. 

Grŵp B: De Affrica, Iwerddon, Yr Alban, Tonga, Rwmania. 

Grŵp C: Cymru, Awstralia, Ffiji, Georgia, Portiwgal.

Grŵp D: Lloegr, Japan, Yr Ariannin, Samoa, Chile. 

Yna, fe fydd pedwar rownd yr wyth olaf, dwy rownd gynderfynol, gêm ar gyfer y trydydd safle ac yna'r rownd derfynol.

Lle bydd modd gwylio’r bencampwriaeth? 

Mi fydd darllediadau S4C yn dechrau gyda'r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd ar 8 Medi, holl gemau Cymru, a rownd yr wyth olaf, y rownd gynderfynol, y trydydd safle a'r ffeinal yn fyw o'r Stade de France ym Mharis.

Llun: Asiantaeth Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.