Malcs a’i farn: 'Mor bwysig ennill er mwyn cael yr hyder yn ôl'
Malcs a’i farn: 'Mor bwysig ennill er mwyn cael yr hyder yn ôl'
Fe fydd Cymru yn wynebu De Corea mewn gêm gyfeillgar nos Iau cyn parhau â'u hymgyrch i gyrraedd Ewros 2024 yn erbyn Latfia yr wythnos nesaf.
Dyma argraffiadau cyn-ymosodwr Cymru a sylwebydd Sgorio, Malcolm Allen, ar yr her sy'n wynebu dynion Rob Page yn ei golofn i Newyddion S4C:
Mae Cymru wedi bod yn y sefyllfa yma dipyn o weithiau dros y 10 mlynedd diwethaf efo pedwar neu bump o reolwyr gwahanol hefyd.
Dwi’n cofio sefyllfa Ryan Giggs, y diweddaraf, lle roeddwn ni’n gorfod cael rhywbeth allan o’r pedair gêm o’r Haf ymlaen.
Felly dydi hyn ddim yn rhywbeth newydd i ni.
Rydyn ni’n cofio gêm Andorra flynyddoedd yn ôl gyda Chris Coleman pan wnaethon ni ddechrau’r rhediad gwych yna cyn cyrraedd Ewros 2016.
Ond fedrwn ni ddim byw yn y gorffennol. Mae rhaid edrych i’r dyfodol hefyd a gwneud yn siŵr bod y newidiadau wedi bod sydd eu hangen gyda rhai o’r chwaraewyr mawr wedi ymddeol erbyn hyn.
Ond yn sicr, mae gyda ni ddigon o brofiad yn yr ystafell newid yna i ddelio gyda beth sydd o’n blaenau.
Ma’ gyda ni dalent, ac mae gyda ni’r gallu i ennill y ddwy gêm sydd o’n blaenau ni.
Hyder
Ond yn gyntaf, mae’n rhaid i ni edrych ar Dde Corea.
Mae angen meddwl am yr hyder, a’r ysbryd sydd wedi cael eu heffeithio gan y canlyniadau fwyaf diweddar.
Ond rhaid cofio mai dim ond un fuddugoliaeth sydd ei hangen i gael y grŵp yn ôl yn bownsio.
Ac wedyn fe fydd yna hyder, fe fydd yna agwedd penderfynol i fynd ymlaen a chreu rhyw fath o fomentwm - dyna sydd ar goll.
Cysondeb y tîm – fe fydd hwnna’n dod efo hynny.
A ffeindio ffordd i ennill heno. Mae hynny mor, mor bwysig.
Symudiad
O ran Brennan Johnson, rydw i yn teimlo y bydd y symudiad i Spurs yr un gorau iddo fo rŵan yn ei yrfa ifanc.
Gyda’r ffordd maen nhw’n chwarae, fe gân nhw'r gorau allan ohono fo.
Da chi byth yn gwybod fel chwaraewr ifanc pa mor dda ydach chi, tan i chi gael eich herio.
Mae o wedi bod yn eistedd yn llonydd felly dwi’n obeithiol go iawn fod Brennan Johnson yn mynd i wneud rhywbeth sbesial yn Spurs.
Ac wedyn mae’n mynd i gario hwnna ymlaen i’r tîm rhyngwladol hefyd.
Dwi’n meddwl bod Aaron Ramsey wedi gwneud symudiad gwych i Gaerdydd.
I Gaerdydd ac i Aaron ei hun.
Mae’n gallu chwarae gemau yn gyson. Mae wedi cael dechrau gwych i’r tymor – gyda dwy gôl yn barod iddyn nhw.
Mae’n chwarae rhyw rôl fach rydd hefyd. Ma’ ganddo fo chwaraewyr ganol cae sy’n gadael iddo wneud hynny yng Nghaerdydd.
Dwi jyst yn gobeithio ei fod o’n gallu cario ymlaen.
Dwi ddim yn gweld o’n chwarae yn erbyn De Corea - fydd hwn yn rhoi math o orffwys iddo fo, i gael ei wynt yn ôl oherwydd ei oedran ag anafiadau mae wedi eu cael dros y blynyddoedd diwethaf.
Felly mae’n bwysig edrych ar ôl Aaron - un o’r chwaraewyr gorau sydd gyda ni.
Wedyn da ni’n edrych ar chwaraewyr fel David Brooks yn dod yn ôl i mewn.
Mae gyda ni Brennan Johnson, Harry Wilson.
Mae gyda ni dîm cryf, go iawn yn mynd i’r cae.
Tîm De Corea
De Corea - maen nhw fynd i fod yn anodd eu curo wrth gwrs.
Maen nhw'n mynd i fod yn ffit, yn dechnegol dda fel rydyn ni’n disgwyl.
Ond rydyn ni hefyd yn gallu arbrofi dipyn bach – ond ddim gormod.
Mae angen munudau ar y cae i’r chwaraewyr sydd heb chwarae yn gyson drwy’r tymor i’w clybiau - pobl fel Mepham a Kieffer Moore.
Y rheswm pam mae Kieffer Moore a Morrell yn y garfan y tro hyn yn lle chwaraewyr fel Luke Harris yn fy marn i ydi bod Cymru yn chwilio am ryw fath o fuddugoliaeth neu berfformiad gwych yn erbyn De Corea.
A hwnna’n ein cario ni ymlaen yn erbyn Latfia.
Tyngedfennol
Mae’n gyfnod mor bwysig os ydan ni am gyrraedd Yr Almaen yr haf nesaf.
Mae pobl yn dweud wrtha i pa mor allweddol ydi’r canlyniadau yma, a’r sgôr yma ond mae’n fwy tyngedfennol i Rob Page efallai.
Dwi’n llawn ffydd. Dwi’n llawn hyder fel ydw i fel arfer pan awn ni i Latfia.
Ond mae angen perfformiad da a chael chwaraewyr i greu rhyw foment bach sbesial i ni yn y gêm De Corea gynta’.
Wedyn fydd hwnna’n ein harwain ni’n syth i fynd drosodd i Latfia'r wythnos nesaf. Mae’n rhaid i ni guro Latfia.
Mae’n amser torchi llewys.