Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio am gorachod Nadolig mewn gerddi

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd i unrhyw un sy’n darganfod “corrach Nadolig” mewn gardd.
Mae’r llu wedi cyhoeddi lluniau o’r addurniadau nadoligaidd ynghyd â rhybudd y gall fod rheswm sinistr i’r ffaith bod y corachod yno.
Dywedodd llefarydd ar ran cangen y llu yng Ngogledd Sir y Fflint: “Rydym yn ymwybodol o adroddiad am unigolion yn ardal Brychdyn yn gadael corachod Nadolig mewn gerddi o flaen cartrefi.
“Mae hyn yn fath o ymddygiad sydd weithiau’n cael ei ddefnyddio fel ‘calling card’ i weld os yw’r corrach yn cael ei gasglu gan y person sy'n byw yno.
Os nad yw’n cael ei gasglu, mae’r tŷ’n fwy na thebyg yn wag ac yn gallu bod yn darged hawdd ar gyfer lladradau. Byddem yn cynghori trigolion i fod yn wyliadwrus i sicrhau bod eu cartrefi’n ddiogel.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn galw ar unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â’r llu unai trwy’r wefan neu drwy ffonio 101.
Mae’r llu hefyd wedi cynnig cyngor i berchnogion cartrefi i gadw eu heiddo’n ddiogel rhag lladron, gan gynnwys argymhellion ar beth i’w wneud os ydyn nhw’n gadael y cartef am rai diwrnodau:
- Sicrhau nad yw cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn gyhoeddus ac ond yn gallu cael ei weld gan ffrindiau, er enghraifft, os yn postio am wyliau,
- Gadael golau a radio ymlaen ar amserydd i wneud i’r cartref edrych fel na phetai’n wag
- Gofyn i gymydog dibynadwy gadw llygad ar yr eiddo neu ymuno â Chynllun Gwarchod y Gymdogaeth
- Gofyn i gymydog gau’r llenni ar ôl iddi nosi a pharcio o flaen y tŷ
- Cofio gohirio danfoniadau papur newydd a llaeth cyn mynd i ffwrdd am gyfnod