Newyddion S4C

'Cwymp difrifol' ym mhoblogaeth huganod ar ynys yn Sir Benfro oherwydd ffliw adar

06/09/2023
gannet

Mae cymdeithas gwarchod adar RSPB Cymru yn rhybuddio bod 'cwymp difrifol' ym mhoblogaeth y nythfa fwyaf o huganod yng Nghymru ar Ynys Gwales, Sir Benfro 

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae nifer yr adar wedi gostwng 52% o ganlyniad i achosion o ffliw adar yn 2022.

Mae’r gymdeithas yn rhybuddio bod y nythfa hefyd o dan fygythiad oherwydd ffactorau eraill fel newid hinsawdd a diffyg bwyd.

Mae Ynys Gwales 11 milltir oddi ar Benmaen Dewi yn Sir Benfro. Mae fel arfer yn gartref i hyd at 36,000 pâr o huganod y gogledd.

Mae’n un o ddwy nythfa huganod yng Nghymru, a'r drydedd fwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Cyn 2022, roedd Ynys Gwales yn gartref i ychydig o dan 10% o boblogaeth huganod y gogledd ledled y byd.

Ond cafodd ymchwil ei gynnal ym mis Gorffennaf 2023 gan RSPB Cymru gydag arian gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a daeth i'r casgliad fod nifer yr huganod sy’n nythu ar yr ynys eleni wedi gostwng yn sylweddol.

Ffigwr isaf ers 1969

Yn 2022, cafodd 34,491 pâr o huganod eu cofnodi ar ynys. Erbyn 2023, 16,482 yw eu poblogaeth sy'n ostyngiad o 52%.

Dyma'r ffigwr isaf ers 1969, pan gafodd 16,128 eu cofnodi.  

Yn ôl RSPB Cymru, o dan amodau arferol, dylai dwy ran o dair o’r ynys gael ei defnyddio gan huganod sy’n nythu yn ymyl ei gilydd, ond mae llawer o fannau gwag wedi ymddangos eleni. 

Mae'r gymdeithas o'r farn bod y gostyngiad yn gysylltiedig â marwolaethau oherwydd ffliw adar yn y nythfa y llynedd.

Mae ardaloedd eraill hefyd wedi profi gostyngiad, sy'n cynnwys Troup Head yn yr Alban.

Dywedodd Greg Morgan, Rheolwr Safle’r RSPB ar Ynys Dewi ac Ynys Gwales: “O ystyried y bylchau sylweddol roedden ni’n eu gweld yn y nythfa eleni, roeddem yn disgwyl gweld gostyngiad sylweddol yn y boblogaeth, ond doedden ni ddim wedi disgwyl un mor fawr â hyn.

"Y nythfa hon o huganod ar Ynys Gwales yw un o ryfeddodau bywyd gwyllt gorau Cymru, a thrist iawn yw gweld bod y lleoliad gwych hwn yn dioddef dirywiad difrifol yn y boblogaeth. Bydd yn cymryd blynyddoedd i boblogaeth y nythfa godi yn ôl ar ei thraed, gan y gall huganod fod mor hen â phum mlwydd oed cyn iddynt ddechrau bridio.

“Mae’r newyddion trist hwn yn enghraifft arall o pam mae gwir angen i ni flaenoriaethu a lleihau’r bygythiadau y mae adar y môr yn eu hwynebu – boed y rheini’n glefydau marwol, neu’n effeithiau newid yn yr hinsawdd.”

Mae ffliw adar wedi’i gofnodi ar Ynys Gwales eto eleni, a bu wyth aderyn farw yno ym mis Gorffennaf 2023. Yn ôl RSPB Cymru, mae'r  straen o ffliw adar sy’n effeithio ar adar gwyllt y Deyrnas Unedig yn 2023 hefyd yn wahanol yn enetig i'r un yn 2022, sy’n golygu bod hwn yn ddarlun cymhleth a bod y feirws yn parhau i esblygu.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.